Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pryd wnaethoch chi wirio eich larwm mwg ddiwethaf?

Eich cadw'n ddiogel yn eich cartref yw ein blaenoriaeth

Wrth gofio nad yw coronafirws wedi diflannu, rydym yn ymdrechu i barhau i gyflawni ein  gweithgareddau craidd - mae hyn yn cynnwys darparu cyngor ac ymyriadau diogelwch yn y cartref  yn ein cymunedau.

Fodd bynnag, rydym wedi newid y modd yr ydym yn cynnal archwiliadau diogel ac iach. Rydym wedi addasu’n cyngor a byddwn yn siarad â pherchnogion tai dros y ffôn yn gyntaf, er mwyn lleihau faint o amser a dreuliwn yn ystod ymweliadau yn y cartref.

Yn ystod yr alwad ffôn byddwn yn asesu’r risgiau yn eich cartref trwy ofyn i chi ateb cwestiynau. Fel rhan o’r asesiad byddwn yn holi a oes gennych chi larymau mwg yn eich cartref. Os oes angen gosod larwm mwg yn eich cartref byddwn yn gofyn i chi eu gosod eich hun, neu gyda help aelod o’r teulu, ffrind neu ofalwr.  Mae hyn er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r haint rhwng y preswylydd, eich teulu a’n staff. Byddwn yn postio’r larymau mwg atoch am ddim.

Os na allwch osod y larymau mwg eich hun neu os nad oes gennych chi deulu neu ofalwr i’ch helpu dan amgylchiadau cyfyngedig fe allwn ni eu gosod i chi,. Bydd ein staff yn gwisgo offer gwarchod personol ac yn gofyn i chi gadw’ch pellter trwy fynd i ystafell arall wrth i’r larymau gael eu gosod.

Cyn i ni ymweld â chi i osod y larymau bydd ein staff yn gofyn i chi ateb cwestiynau sgrinio rhag COVID-19. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un yn yr eiddo â symptomau neu’n hunan-ynysu ar ôl bod dramor neu ar ôl dod i gysylltiad gyda rhywun a oedd yn arddangos symptomau COVID-19. Mae hyn er mwyn cydymffurfio gyda’r protocolau Profi, Olrhain, Diogelu.  

Mae archwiliadau diogel ac iach ar gal yn rhad ac AM DDIM, a'r cyfan sydd angen ei wneud yw:

  • Llenwi'r ffurflen ar-lein
  • Ein ffonio ni ar 0800 169 1234 rhwng 9am-5pm o Ddydd Llun i Dydd Gwener
  • Anfon e-bost atom drwy ddefnyddio y bocs ar y dde

Gallai gweithredu heddiw olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw.

Dywedodd Paul Scott, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Rydym wedi gweld y dinistr y gall tanau ei achosi ac rydym yn gwybod y gallai ychydig o gamau syml fod wedi atal nifer o drasiedïau. Peidiwch â gadael i drasiedi daro'ch teulu chi - rhwystrwch y tân rhag cychwyn yn y lle cyntaf."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen