Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Gweithredu ar Ddementia

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi ymgyrch genedlaethol i gefnogi ymwybyddiaeth o ddementia'r wythnos hon.

Cynhelir Wythnos Gweithredu ar Ddementia rhwng 21ain – 27ain Mai a’r nod yw annog pobl i drafod eu pryderon mewn perthynas â dementia.

Y llynedd cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru oedd y sefydliad cyntaf yn y rhanbarth i gael ei adnabod fel sefydliad sydd yn ‘Gweithio tuag at fod yn Ddementia-Gyfeillgar’.  

Fel rhan o’r fenter, mae’r Gwasanaeth yn mynd ati’n rhagweithiol i annog trigolion i wneud yn siŵr eu bod nhw’n fwy ymwybodol o berthnasau, ffrindiau neu bobol yn y gymuned sydd o bosib yn ddioddef o ddementia, er mwyn eu diogelu’n well.

Mae pobl sydd yn byw gyda dementia mewn mwy o berygl o ddioddef tân oherwydd diffyg canolbwyntio, cof tymor byr, angof a dryswch ynglŷn â sut i ddefnyddio offer. Fe allant hefyd gael trafferthion wrth fynd allan mewn achos o dân neu ddeall beth sydd yn mynd ymlaen.

Mae’r Gwasanaeth wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Alzheimer’s i helpu pobl sydd yn byw gyda dementia drwy wneud yn siŵr bod staff yn deall mwy am y problemau y mae pobl sydd yn byw gyda dementia yn eu hwynebu. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod gan y gwasanaeth tân system atgyfeirio ar waith.

Mae nifer o staff wedi cwblhau sesiynau ymwybyddiaeth i ddeall y cyflwr yn well a deall sut y gallant gefnogi unigolion sy’n dioddef o’r cyflwr. Yn ystod archwiliad diogelwch cartref, mae staff y gwasanaeth tân ac achub wedi cael eu hyfforddi i atgyfeirio unigolion a allai elwa o gyngor a chyfarwyddyd pellach gan y Gymdeithas Alzheimer’s. Yn yr un modd, fe all y Gymdeithas Alzheimer’s hefyd atgyfeirio cleientiaid a allai elwa o archwiliad diogelwch cartref gan y gwasanaeth tân ac achub.

Mae’r cydweithio rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r Gymdeithas Alzheimer’s nid yn unig yn gweithio tuag at sicrhau bod pobl gyda dementia yn ddiogel yn y cartref, ond mae hefyd yn helpu i ddatblygu cymunedau diogel ac amyneddgar fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddf yn gofyn ar i gyrff cyhoeddus feddwl am lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn yr hir dymor trwy weithio’n agosach gyda phobl a chymunedau a chyda’n gilydd.

Meddai Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Cymunedol:

“Fe all cefnogaeth gan staff, o ganlyniad i gynyddu eu hymwybyddiaeth, wneud gwahaniaeth mawr i’r bobl hynny sydd yn byw gyda dementia.

“Mae iechyd, diogelwch a lles pobl sydd yn byw gyda dementia yn bwysig iawn i ni ac rydym yn falch o gael gweithio gyda’r Gymdeithas Alzheimer’s i gefnogi pobl sydd yn byw gyda dementia ynghyd â’u teuluoedd.

“Rydym ni fel sefydliad yn cydnabod gwerth bod yn sefydliad Dementia-Gyfeillgar oherwydd ein bod yn cydnabod bod mwy a mwy o bobl hŷn sydd mewn perygl o dân hefyd yn byw gyda dementia. Rydym yn gobeithio gweithio gyda sefydliadau tebyg yn y dyfodol i helpu i amddiffyn ein cymunedau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen