Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch y Plant

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Diogelwch y Plant (4-10 Mehefin), ymgyrch flynyddol gan yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon a’r modd y gellir eu hatal.

 

Yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth mae staff wedi bod yn ymweld â wardiau plant yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor, Wrecsam yn ogystal ag ysgolion lleol i siarad gyda’r plant am gadw’n ddiogel.

 

Meddai Kevin Roberts, Uwch Reolwr Diogelwch Tân ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r gwasanaeth tân ac achub yma i gadw pobl yn ddiogel, ond yn ogystal ag ymateb pan fydd pethau’n mynd o chwith rydym hefyd deall gwerth atal damweiniau rhag digwydd yn y lle cyntaf. O ganlyniad rydym yn gweithio’n galed i atal damweiniau fel rhan o’n Harchwiliadau Diogel ac Iach.

 

“Rydym yn cefnogi Wythnos Diogelwch y Plant mewn ymgais i annog rhieni, gwarcheidwaid a gofalwyr i feddwl am y math o fesurau syml y gallant eu rhoi ar waith i ddiogelu eu plant rhag damweiniau a all eu hanafu’n ddifrifol.

 

“Rydym yn gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn i gefnogi ymgyrchoedd a chydlynu ymweliadau ag ysgolion ond mae Wythnos Diogelwch Plant yn rhoi cyfle gwych i ni ledaenu’r gair ar ddiogelwch gyda chynulleidfa ehangach.

 

 

Mae gan Kevin y negeseuon yma i’w rhannu er mwyn cadw plant mor ddiogel â phosib:

 

  • Gosodwch larwm mwg - gosodwch larwm mwg a gofynnwch i’ch plant eich helpu i’w brofi’n rheolaidd er mwyn cynyddu eu hymwybyddiaeth o dân a rhoi cyfle i chi fynd allan o’r cartref mewn achos o dân. Gosodwch un ar bob llawr yn eich cartref a phrofwch nhw’n rheolaidd. Os ydy’ch larwm yn seinio’n ddamweiniol pan fyddwch yn coginio, peidiwch â thynnu’r batri. Yn hytrach symudwch y larwm neu newidiwch y larwm am un sydd gan fotwm distewi.
  •  
  • Enwebwch eich plentyn i fod yn ‘Bencampwr Dianc o Dân’ - ymarferwch lwybrau dianc yn rheolaidd a rhowch y cyfrifoldeb o gadw llwybrau dianc yn glir i’ch plant.

 

  • Peidiwch â gadael i’ch plant chwarae â thân – cadwch ganhwyllau, tanwyr a matsis ymhell o gyrraedd plant, a pheidiwch â gadael canhwyllau yn llosgi.

 

  • Cadwch yn ddiogel yn y gegin – Gwnewch yn siŵr bod plant yn gwybod nad lle i chware ydi’r gegin – peidiwch byth â gadael plant ar eu pen eu hunain yn y gegin pan fyddwch yn coginio na gadael iddynt chwarae ger y popty a’r hob.

 

  • Diogelwch socedi – Dysgwch eich plant i beidio â rhoi dim byd, gan gynnwys bysedd, i mewn i socedi.

 

  • Byddwch yn ‘ddoeth’ gydag agoriadau – dylech annog eich plant i wneud yn siŵr bod eich agoriadau wedi cael eu cadw yn y lle cywir. Cadwch agoriadau ffenestri a drysau mewn lle cyfleus fel y gallwch fynd allan yn gyflym os bydd tân.

 

  • Trafodwch sut i alw 999 – Gwnewch yn siŵr bod plant yn gwybod pwy y dylent ffonio mewn argyfwng. Fe ddylent wybod eu cyfeiriad. Cadwch y ddau yn ymyl y ffôn; eglurwch bwysigrwydd galw 999 dim ond mewn argyfwng.

 

  • Dysgwch eich plant i ddilyn y cyngor isod mewn achos o dân - ‘Ewch allan, Arhoswch allan a Ffoniwch 999!’ Peidiwch ag oedi er mwyn casglu’ch eiddo, peidiwch ag ymchwilio i achos y tân a pheidiwch â cheisio’i ddiffodd eich hun. Defnyddiwch ffôn symudol, ffôn eich cymydog neu giosg ffôn i ffonio 999. Os oes angen i rywun gael ei achub arhoswch i’r diffoddwyr tân gyrraedd - mae ganddynt yr offer a’r profiad i wneud hynny. Peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn.

 

  • Croeswch y ffordd yn ddiogel – dysgwch eich plant sut i groesi’r ffordd yn ddiogel.

 

  • Teithiwch yn ddiogel yn y car - gwisgwch wregys diogelwch bob amser a gwnewch yn siŵr eich bod yn diogelu’ch plant yn eu seddi.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen