Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad - Tân eithin yng Ngharmel ger Caernarfon

Postiwyd

 

Mae 40 o ddiffoddwyr tân wrthi’n delio gyda thân eithin sylweddol ar Fynydd Cilgwyn, Carmel ger Caernarfon.

 

Mae peiriannau o Gaernarfon, Llanberis, Porthaethwy, Conwy, Llandudno a Phorthmadog wedi cael eu galw yno gan gynnwys cerbydau oddi ar y ffordd o Borthmadog, Blaenau Ffestiniog, Abergele a Llanrwst. Mae’r Uned Meistroli Digwyddiadau o’r Rhyl hefyd wedi cael ei anfon.

 

Mae staff o Heddlu Gogledd Cymru a’r awdurdod lleol wedi gwagio tua 15 o dai gan fod y tân tua milltir o hyd. Mae pedwar o bobl mewn canolfan orffwys ar hyn o bryd gyda chydweithwyr o Gyngor Gwynedd. Mae trigolion eraill wedi treulio’r noson gyda pherthnasau a ffrindiau. 

 

Mae’r NPAS (Gwasanaeth Awyr yr Heddlu) hefyd ar y ffordd i gynorthwyo’r diffoddwyr tân er mwyn cael gweld yr olygfa o’r awyr.

 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Gweithrediadau, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “ Rydym yn cynghori trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau a chadw’n ddiogel.

 

“Nid ydym yn gwybod beth achosodd y tân, ond rydym yn erfyn ar bobl i gymryd  pwyll arbennig pan fyddant ar allan ar weundiroedd a thir eithin i helpu i leihau’r perygl o dân - yn enwedig yn ystod y tywydd poeth a sych diweddar. 

 

“Yn ystod cyfnodau sych, mae tanau yn ymwneud â glaswellt, eithin a grug yn gallu datblygu’n gyflym , yn enwedig os oes gwyntoedd cryfion, ac o ganlyniad maent yn mynd allan o reolaeth a lledaenu i dai neu goedwigoedd.

 

“Os ydych yn mynd allan am dro, gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd a chael gwared ar ddefnyddiau ysmygu yn iawn. Os ydych yn gwersylla, eto gwnewch yn siŵr eich bod yn diffodd barbeciws a thanau gwersylla yn iawn.

 

Fe ychwanegodd: ”Rydym yn cydlynu gyda chydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd ac unwaith y bydd y tân dan reolaeth byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn i ddarganfod achos y tân.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen