Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwr Tân Rhan Amser (RDS)

Enw: Zaffar

Rôl: Diffoddwr Tân Rhan Amser (RDS)

Zaffar

Ychydig bach am fy rôl…

Fel diffoddwr tân RDS rydw i’n gallu bod ar alwad yn ystod y dydd os ydw i’n gweithio’n lleol, ac rydw i hefyd ar alwad o’r cartref gyda’r nos. Rydw i hefyd yn mynychu nosweithiau ymarfer i ddatblygu fy sgiliau fel diffoddwr tân.

Pan fydd y teclyn rhybuddio yn canu rydw i’n ymateb i bob math o alwadau gan gynnwys tanau mewn adeiladau a gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd – neu unrhyw ddigwyddiad sydd angen ein cymorth. Mae pob digwyddiad yn wahanol, a dyma beth sy’n gwneud yn un ddiddorol.

Fel rhan o fy rôl rydw i’n cynnal archwiliadau diogelwch cartref i addysgu’r cyhoedd ar atal tanau yn y cartref.

Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?

Mae fy ngweithgareddau dyddiol yn cynnwys archwilio’r injan a gwaith diogelwch cymunedol, yn ogystal ag ymateb i fy nheclyn rhybuddio.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Mae pob digwyddiad yn wahanol –mae hyn yn golygu bod gyrfa gyda’r gwasanaeth tân ac achub yn un ddiddorol iawn. Mae hon yn swydd anodd iawn yn gorfforol, felly mae ffitrwydd yn bwysig iawn – mae hyn yn ein galluogi ni fel diffoddwyr tân i gyflawni’r gwaith anoddaf.

Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?

Nes i ddewis yr yrfa yma oherwydd bod fy ngwaith fel contractwr yn bodloni dim ond rhai agweddau ar fy mywyd. Nes i ddewis y gwasanaeth tân ac achub oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i mi ehangu fy sgiliau a gwybodaeth er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?

Mae’r yrfa yn golygu addysgu’r gymuned am ddiogelwch tân ac ymateb i ddigwyddiadau. Os ydych chi’n berson pobl, yn frwdfrydig ac yn gweithio’n dda mewn tîm yna dyma’r yrfa i chi.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa?

Mae angen ysgogiad a dyfalbarhad arnoch chi, awch i ddysgu a’r gallu i weithio fel tîm mewn gyrfa gorfforol a heriol iawn – os mai chi ydi’r person yma, yna ymunwch gyda’r Gwasanaeth.

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen