Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Bala


Bala
Gorsaf Dân Y Bala

Cyfeiriad:
Ffordd yr Orsaf,
Bala
LL23 7NG

Ffôn:01745 535250

Manylion y criw:

Mae Gorsaf Dân Y Bala yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

Yr ardal ddaearyddol a wasanaethir:

Mae gorsaf  y Bala yn gwasanaethu'r ardal helaethaf yng Ngogledd Cymru, yn ymestyn o fynyddoedd y Berwyn yn y dwyrain tuag at fynyddoedd yr Arennig yn y Gorllewin.

Safleoedd o risg:

Yn ogystal â pharciau diwydiannol y dref, rhan prysur iawn o'r A494 sydd yn ymestyn tua 15 milltir drwy'r ardal a wasanaethir.  Mae'r brif ffordd yn arwain at ganolfannau gwyliau yn Nolgellau, Abermaw a Phen Llŷn.

Mae'r mynyddoedd a'r coedwigoedd hefyd yn risg parhaol i'r orsaf wledig hon yn ystod tywydd sych.

 

Hanes yr Orsaf:

Codwyd yr orsaf yn y Bala ym 1964, fel rhan o Wasanaeth Tân Meirionydd a Gwynedd, cyn cael ei throsglwyddo i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ystod yr ad-drefnu ym 1996.  Roedd gan yr orsaf wreiddiol do fflat fel y byddai modd codi estyniad pe byddai raid - roedd rhai yn rhagweld y gallai poblogaeth y Bala gynyddu deng gwaith wedi'r 1960au.

Gwaith yn y gymuned:

Mae'r orsaf yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau  elusennol, yn cynnwys yr olchfa geir genedlaethol.  Mae hefyd yn cymryd rhan yn yr ŵyl gerddoriaeth Gymraeg,  Wa Bala, gan gymryd rhan yn y 'diwrnod i'r teulu' a chofrestru pobl am archwiliadau diogelwch tân yn y cartref.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen