Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Caernarfon

Gorsaf Dân Caernarfon

Caernarfon

Cyfeiriad:

Gorsaf Dân Caernarfon

Ffordd Llanberis

Caernarfon

Gwynedd

LL55 2DF.

Ffôn: 01745 535250

Manylion y Criw:
Mae gan Orsaf Dân Caernarfon griw dydd amser cyflawn gyda dwy wylfa (Glas a Choch) ac un gwylfa'r System Dyletswydd yn ÔL Y Galw.

Safleoedd o Risg:
Nwy Shell (Canolfan dosbarthu LPG)

Maes Awyr Caernarfon

Castell Caernarfon

Ysbyty Eryri

Rheilffordd Ucheldir Cymru ( Caernarfon i Rhyd Ddu)

Ystâd Ddiwydiannol Cibyn

Marina'r Felinheli

 

Hanes yr Orsaf:
Mae'r arfer o ddiffodd tanau yn Nhref Frenhinol Caernarfon yn mynd yn ôl ganrifoedd.  Y ddiffoddwyr tân cyntaf oedd y Rhufeiniaid yng nghaer Segontium ar gyrion y dref.  Prynwyd yr injan dân gyntaf ym 1670, wedi i'r hen dref gael ei cholli yn ystod tân mawr.  Hyd heddiw mae deddf leol sydd yn gwahardd tanau simnai yn yr hen dref.

Mae'r 'Hwyrgloch' yn dal i gael ei chanu am 8pm bob dydd i atgoffa pobl y dref bod giatiau'r dref yn cau ac y dylai trigolion ddiffodd eu tanau.  Wiliam Goncwerwr a  gyhoeddodd y gorchymyn hwn a dyma'r gofnod cyntaf o ddeddfwriaeth tân ym Mhrydain.

Adeiladwyd yr orsaf dân bresennol ym 1963 fel pencadlys ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Ambiwlans Sir Gaernarfon. Roedd gorsaf ambiwlans ynghlwm wrth yr orsaf dân ond cafodd ei had-leoli ym 1995. Dymchwelwyd yr orsaf ambiwlans, ym 1995 a defnyddiwyd y safle i adeiladu pencadlys newydd ar gyfer rhanbarth gogledd orllewin Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen