Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhosneigr

Gorsaf Dân Rhosneigr
rhosneigr
Ffordd yr Orsaf
Rhosneigr
Ynys Môn
LL64 5QW
Ffôn: 01745 535 250

 

Manylion y criw

Mae Gorsaf Dân Rhosneigr yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

Ardal yr orsaf:

Rhosneigr a phlwyfi cyfagos.

Safleoedd o risg:
Alwminiwm Môn
Yr Awyrlu yn Fali
Porthladd Caergybi.

Hanes yr orsaf:

Mae gorsaf dân Rhosneigr yn ymateb i ryw 200 o alwadau bob blwyddyn.

I ddechrau roedd yn rhan o Wasanaeth Tân Môn, a daeth gorsaf dân Rhosneigr yn rhan o Wasanaeth Tân Gwynedd cyn uno yn Wasanaeth Tân Gogledd Cymru yn 1996. Adeiladwyd yr orsaf wreiddiol yn 1973 ac roedd ar Stryd Fawr Rhosneigr tan 1987 pan agorwyd yr orsaf newydd gan y Capten A. Robertson, Cadeirydd Cyngor Gwynedd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen