Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cofnodion Cyfarfod ATA 17 Rhagfyr 2018

AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU
Cofnodion cyfarfod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a gynhaliwyd ddydd Llun 17 Rhagfyr 2018 yn Siambr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy. Dechreuodd y cyfarfod am 10.30am.
 
YN BRESENNOL
Y Cynghorydd  
M Ll Davies (Cadeirydd) Cyngor Sir Ddinbych
P Lewis (Dirprwy Gadeirydd) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
B Apsley Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
A Davies Cyngor Sir Ddinbych
M Dixon Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
I Dunbar Cyngor Sir y Fflint
V Gay Cyngor Sir y Fflint
R Griffiths Cyngor Sir Ynys Môn
J B Hughes Cyngor Gwynedd
E W Jones Cyngor Sir Ynys Môn
S Lloyd-Williams Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
G Lowe Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
R Parry Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
D Rees Cyngor Sir Ynys Môn
P Shotton Cyngor Sir y Fflint
J R Skelland Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
N Smith Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
A Tansley Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
G Williams Cyngor Gwynedd
Hefyd yn bresennol: 
S A Smith (Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr); C Everett (Clerc a Swyddog Monitro i’r Awdurdod); K W Finch (Trysorydd i’r Awdurdod); R Fairhead a K Roberts (Prif Swyddogion Tân Cynorthwyol); S Morris a H MacArthur (Prif Swyddogion Cynorthwyol); T Williams (Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol); A Davies (Swyddog Cyswllt Aelodau).
YMDDIHEURIADAU
Y Cynghorydd 
M Bateman Cyngor Sir y Fflint
B Blakeley Cyngor Sir Ddinbych
P Evans Cyngor Sir Ddinbych
R Roberts Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
D Wisinger Cyngor Sir y Fflint
1 DATGAN BUDDIANNAU
1.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

2 COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 MEDI 2018
2.1 Cafodd cofnodion cyfarfod yr Awdurdod Tân ac Achub a gynhaliwyd ar 17 Medi eu cyflwyno i’w cymeradwyo.
2.2 PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod yn gofnod gwir a chywir.
3 MATERION YN CODI
3.1 Nid oedd unrhyw faterion yn codi.
4 MATERION BRYS
4.1 Nid oedd unrhyw faterion brys.
5 ADRODDIAD Y CADEIRYDD
 
5.1 Roedd yr adroddiad yn rhestru’r cyfarfodydd a’r digwyddiadau yr aeth y Cyng. M Ll Davies a’r Cyng. P R Lewis iddynt rhwng Medi a Rhagfyr 2018 yn rhinwedd eu swyddi fel Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
5.2 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a ddarparwyd.
6 ALLDRO AMCANOL 2018/19
6.1 Cyflwynodd y Trysorydd yr adroddiad a oedd yn rhoi amcangyfrif o alldro amcanol Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru am flwyddyn ariannol 2018/19.    
6.2 Cafodd yr aelodau wybod mai’r rhagolygon presennol yw y bydd angen holl ddyraniad y gyllideb, gan gynnwys y cyfraniad o’r cronfeydd wrth gefn, ond mae hyn yn ddibynnol ar sefyllfa lle mae lefel y gweithgarwch yn aros ar y lefelau arferol yn ystod misoedd y gaeaf. O ran y gyllideb gyfalaf, nodwyd bod gwariant cyfalaf blwyddyn lawn nifer o brosiectau £2.7m, a hynny oherwydd bod amseriad nifer o brosiectau wedi cael ei ad-drefnu.
6.3 Nododd yr aelodau fod gwariant refeniw ychwanegol yn ystod misoedd yr haf, a hynny oherwydd y tanau glaswellt. Fodd bynnag, i ymateb i gwestiwn am hawlio arian o’r cynllun Bellwin, nodwyd mai dim ond i awdurdodau lleol yr oedd hwnnw ar gael.
6.4 PENDERFYNWYD nodi bod yr Awdurdod:
(i) yn rhagweld ar hyn o bryd y bydd yn llwyr ddefnyddio ei gyllideb refeniw, sef £34.1m, yn 2018/19; a
(ii) yn rhagweld gwariant cyfalaf o £2.7m yn ystod 2018/19 o gymharu â’r cynllun, sef £5.9m.

7 YMATEB I’R YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS A’R AMCANION GWELLA A LLESIANT DRAFFT 2019/20
7.1 Cyflwynodd y PST Morris yr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o’r ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn 2018, a gynhaliwyd fel rhan o’r broses o ddatblygu ei amcanion gwella a llesiant ar gyfer 2019/20. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnig bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r amcanion gwella a llesiant ar gyfer 2019/20.
7.2 PENDERFYNWYD
(i) nodi’r ymateb i ymgynghoriad cyhoeddus yr Awdurdod a gynhaliwyd rhwng Medi a Thachwedd 2018; a
(ii) cymeradwyo datblygu Cynllun Gwella a Llesiant drafft ar gyfer 2019/20, yn seiliedig ar barhau ag amcanion gwella a llesiant presennol yr Awdurdod, sef:
• cefnogi pobl i atal tanau damweiniol mewn cartrefi ac i aros yn ddiogel os ydynt yn digwydd; a
• hwyluso gwasanaethau tân ac achub sydd o ansawdd uchel, yn atebol ac wedi’u hintegreiddio’n well fel bod gweithgareddau ataliol ac ymateb brys yn parhau i fod ar gael pan a lle mae eu hangen, a hynny yn fforddiadwy, yn deg ac ar sail risg.
8 Y STRATEGAETH ARIANNOL TYMOR CANOLIG AR GYFER 2019/22 A CHYLLIDEB 2019/20
8.1 Cyflwynodd y Trysorydd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019/22 a chyllidebau refeniw a chyfalaf drafft 2019/20.
8.2 Fe wnaeth y PST MacArthur amlinellu’r prif risgiau ac ansicrwydd a ganfuwyd yn ystod y broses o gynllunio’r gyllideb, a chadarnhaodd y rhagdybiaethau allweddol. Cadarnhawyd bod modd ariannu lefel bresennol y ddarpariaeth gwasanaethau yn y tymor byr. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y prif risgiau ac ansicrwydd i’r Awdurdod yn y tymor canolig; yn ôl y rhagdybiaeth gynllunio gyfredol, bydd dyfarniadau cyflog sy’n fwy na yn 2%, a’r costau pensiwn ychwanegol yn deillio o brisiad Adran Actiwari’r Llywodraeth, yn cael eu hariannu’n ganolog.
8.3 Awgrymodd y Clerc y gallai pob cyngor gael llinell ychwanegol ar eu treth gyngor yn dangos swm y cyfraniad tuag at y GTA; teimlai y byddai hyn yn arwain at fwy o ddealltwriaeth ymysg y cyhoedd.
8.4 PENDERFYNWYD
(i) cymeradwyo’r cyllidebau cyfalaf a refeniw ar gyfer 2019/20, yn seiliedig ar gynnydd o £1.7m yn y cyfraniadau gan yr awdurdodau cyfansoddol;
(ii) dirprwyo awdurdod i’r Trysorydd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, y Prif Swyddog Tân a’r Clerc, i addasu lefel y gyllideb am i lawr os daw unrhyw arbedion i’r amlwg cyn 15 Chwefror 2019;  a
(iii) cefnogi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

9 AELODAETH GWEITHGOR CYNLLUNIO’R AWDURDOD I DDATBLYGU CYNLLUN YR AWDURDOD TÂN AC ACHUB AR GYFER 2020/21
9.1 Cyflwynodd y PST Morris yr adroddiad a oedd yn gofyn i’r Aelodau gytuno ar aelodaeth Gweithgor Cynllunio’r Awdurdod yn 2019.
9.2 Nodwyd y bydd angen i brosesau cynllunio’r Awdurdod ddechrau’n gynnar yn 2019 i ganiatáu digon o amser i’r Awdurdod lunio cynllun 2020/21, ymgynghori yn ei gylch, a’i gymeradwyo i’w gyhoeddi yn gynnar yn 2020. Y Gweithgor fydd yn gwneud y gwaith manwl o lunio’r cynllun i’w gymeradwyo gan yr Awdurdod llawn.
9.3 Roedd yr aelodau’n cydnabod bod holl aelodau’r Panel Gweithredol wedi dod yn aelodau o’r Gweithgor Cynllunio ond roeddent o’r farn y dylai aelodau’r Pwyllgor Archwilio gymryd mwy o ran a chynigwyd bod Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn dod yn aelodau o’r Gweithgor Cynllunio.
9.4 PENDERFYNWYD
(i) cytuno bod holl aelodau Panel Gweithredol yr Awdurdod yn dod yn aelodau o’r Gweithgor Cynllunio;
(ii) cytuno bod Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio hefyd yn dod yn aelodau o’r Gweithgor Cynllunio; a
(ii) nodi y bydd dyddiadau cyfarfodydd y Gweithgor Cynllunio yn cael eu hanfon at yr Aelodau maes o law.
10 PAPUR GWYN “DIWYGIO AWDURDODAU TÂN AC ACHUB CYMRU”
10.1 Cyflwynodd y Prif Swyddog Tân yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Bapur Gwyn “Diwygio Awdurdodau Tân ac Achub Cymru”.
10.2 PENDERFYNWYD
(i) nodi’r ffaith fod Papur Gwyn Llywodraeth Cymru “Diwygio Awdurdodau Tân ac Achub Cymru” wedi cael ei gyhoeddi;
(ii) nodi’r gweithdy a fydd yn cael ei gynnal ar gyfer yr holl aelodau ar 15 Ionawr 2019;
(iii) cytuno y bydd ymateb ysgrifenedig yn cael ei wneud i Lywodraeth Cymru ar ôl y gweithdy, a hynny erbyn y dyddiad cau sef 5 Chwefror 2019. Bydd yr ymateb yn cael ei lofnodi’n ffurfiol gan Gadeirydd yr Awdurdod.
Ar yr adeg hon, fe wnaeth y Cyng. S Glyn a’r Cyng. J B Hughes adael y cyfarfod.
11 DYDDIADAU CYFARFODYDD 2019
11.1 Cyflwynodd y Clerc yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i’r Aelodau am ddyddiadau cyfarfodydd yr Awdurdod Tân ac Achub llawn, y Panel Gweithredol a’r Pwyllgor Archwilio yn 2019.

Dyma’r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ATAGC:
Dydd Llun 18 Mawrth 2019
Dydd Llun 17 Mehefin 2019
Dydd Llun 16 Medi 2019
Dydd Llun 16 Rhagfyr 2019
Dyma’r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd y Panel Gweithredol, i’w cynnal ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Llanelwy:
Dydd Llun 11 Chwefror 2019
Dydd Llun 13 Mai 2019
Dydd Llun 29 Gorffennaf 2019, 2pm
Dydd Llun 21 Hydref 2019
Dyma’r dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio, i’w cynnal ym Mhencadlys y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Llanelwy:
Dydd Llun 28 Ionawr 2019
Dydd Llun 29 Gorffennaf 2019
Dydd Llun 9 Medi 2019
11.2 Ar gais yr aelodau, cytunwyd y byddai amser dechrau cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio yn cael ei benderfynu y tu allan i’r cyfarfod hwn ac y bydd pob aelod yn cael gwybod hynny.
11.3 PENDERFYNWYD nodi dyddiadau cyfarfodydd yr Awdurdod Tân ac Achub, y Panel Gweithredol a’r Pwyllgor Archwilio a drefnwyd ar gyfer 2019.
12 Y BYRDDAU GWASANAETHAU CYHOEDDUS – YR WYBODAETH DDIWEDDARAF
12.1 Cyflwynodd y PST Morris yr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o’r cynnydd a wnaed gan y pedwar Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru tuag at ddiffinio a chyflawni eu cyfres gyntaf o’r amcanion llesiant maent wedi’u mabwysiadu.
12.2 Nodwyd bod y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyhoeddi eu hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant ar gyfer eu hardaloedd. Mae’r Byrddau’n parhau i gwrdd yn rheolaidd ac mae gwaith yn cael ei wneud hefyd drwy’r is-grwpiau pynciol. Mae’r cynlluniau llesiant, eu hunain, yn nodi cyfanswm o 74 o flaenoriaethau ar gyfer Gogledd Cymru, a gellir categoreiddio’r rheini’n fras dan 16 o benawdau.
12.3 PENDERFYNWYD
(i) nodi’r cynnydd a wnaed gan y pedwar Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru tuag at osod a chyflawni eu hamcanion llesiant;
(ii) ar ôl i adroddiadau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gael eu cyhoeddi, eu derbyn yn un o gyfarfodydd yr ATA yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Gadawodd y Clerc y cyfarfod tra oedd yr eitem nesaf ar yr agenda yn cael ei drafod.  

13 PENODI CLERC/SWYDDOG MONITRO
13.1 Dywedodd y PST MacArthur fod y ddogfen gaffael ar gyfer swydd clerc/swyddog monitro wrthi’n cael ei chwblhau’n derfynol ac y bydd yn cael ei chyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd, gyda’r bwriad o gynnal y cyfweliadau ddiwedd mis Chwefror.
13.2 Nododd yr aelodau y bydd y panel penodi yn cynnwys un aelod o’r Panel Gweithredol o bob awdurdod lleol.
13.3 PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth ddiweddaraf.
RHAN II
14 GORCHYMYN CYNLLUN PENSIWN Y DIFFODDWYR TÂN (CYMRU) (DIWYGIO) 2014 – CYMHWYSO RHEOL B5C
14.1 Roedd yr Adroddiad yn rhoi gwybodaeth i’r aelodau am y mater sy’n gysylltiedig â chymhwyso Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Diwygio)(Cymru) 2014, Rheol B5C a’i effaith ar y trefniadau pensiwn i staff sy’n cael eu talu am ddyrchafiadau dros dro. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cael cymeradwyaeth i’r cynigion i gymhwyso Rheol B5C yn llawn.    
14.2 PENDERFYNWYD
(i) nodi cefndir y mater sy’n gysylltiedig â thrin dyrchafiadau dros dro ar gyfer pensiynau;
(ii) nodi’r effaith ar gyfer pob grŵp o staff sy’n gysylltiedig â’i gymhwyso’n llawn;
(iii) cymeradwyo’r cynnig i gymhwyso Rheol B5C yn llawn, gan ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2013; a
(iv) cymeradwyo’r ffordd arfaethedig o drin gweithwyr sydd eisoes wedi ymddeol, gan nodi’r risgiau cysylltiedig.
Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen