Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pandemig coronafirws

Gellir dod o hyd i gyngor cyffredinol am coronafirws yma;

Sefydliad Iechyd y Byd 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Llywodraeth Cymru 

Llywodraeth DU

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth ymwneud gyda coronafeirws.

Bydd ein gwasanaeth tân ac achub yn parhau i weithio i gynnal diogelwch ein staff a’n cymunedau wrth i ni ymuno gyda’n partneriaid i wneud yn siŵr mai’ch diogelwch chi ydi’r brif flaenoriaeth. 

I helpu sicrhau eich diolgelwch chi, cymrwch pwyll arbennig er mwyn atal digwyddiadau rhag ddigwydd yn y lle cyntaf.

Dyma gyngor sylfaenol - medrwch hefyd ein dilyn ni ar Facebook a Twitter am gyngor pellach ar yr hyn y gallwch chi ei wneud i gadw’n ddiogel yn y cartref a’n helpu ni i amddiffyn ein cymunedau.

  • Profwch eich larwm mwg – gofalwch am eich larwm er mwyn iddo ofalu amdanoch chi
  • Mae nifer o danau yn cychwyn yn y gegin - mae un peth bach yn ddigon i fynd â’ch sylw
  • Mae ysmygu yn achos tân cyffredin - felly diffoddwch hi, yn llwyr
  • Gyda llond tŷ, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gorlwytho socedi trydanol
  • Diffoddwch bopeth cyn mynd i’r gwely - mae nifer o danau yn y cartref yn cychwyn yn y nos
  • Anogir ffermwyr a pherchnogion tir i osgoi llosgi ar eu tir - ond os es wir raid, mae’n rhaid rhoi gwybod i’r ystafell reoli ar 01931 522 006.

Rydym yma i chi mewn argyfwng - ffoniwch 999 os cewch dân yn eich cartref neu’ch busnes. 

Rhestr wirio diogelwch coronafirws

Pamffled Dioglewch tân yn y cartref

Diogelwch Tân i Fusnesau

Mae Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân wedi darparu cyfarwyddyd i fusnesau yn ystod y pandemig COVID-19, sydd yn ymwneud â chyfrifoldebau perchnogion busnesau yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n darparu cyngor ar bob agwedd o ddiogelwch tân megis asesiadau risgiau tân, hyfforddi staff, profi a chynnal systemau tân, adeiladau sydd ar gau yn ystod y cyfyngiadau symud a dulliau dianc. Mae’n cynnwys rhai o’r cwestiynau cyffredin a dderbyniwyd gan bobl gyfrifol ac mae’n cyfeirio pobl at safleoedd eraill a all ddarparu cyngor cynhwysfawr ar bynciau megis profi a chynnal a chadw a chyngor ar gyfer gweithwyr sydd yn gweithio gartref. Mae’r daflen ar gael i’w lawr lwytho yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen