Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Beth yw Llosgi Bwriadol

Beth yw Llosgi Bwriadol

Beth yw llosgi bwriadol?

Mae mwyafrif y tanau difrifol yn y DU yn cael eu cynnau'n fwriadol ac maent yn costio miloedd i'r wlad bob blwyddyn!!!

Nid yn unig mae tanau bwriadol yn costio miloedd o bunnoedd bob blwyddyn, maent hefyd yn draul ar adnoddau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac yn ein hatal rhag bod yn bresennol yn ystod digwyddiadau difrifol, gan beryglu bywydau.

Mae'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol yn gweithio'n ddiflino i fynd i'r afael â'r broblem - drwy weithio mewn partneriaeth ac ymgyrchu, i geisio dal y rheiny sy'n gyfrifol.

Yn aml iawn mae'r broblem yn cychwyn gyda thynfa at dân sydd yn datblygu i gynnau tanau bychan.  Gall y broblem fynd allan o reolaeth yn gyflym iawn ac aml  bydd hyn yn cynnwys cynnau tanau bwriadol mewn sgipiau, ceir, tai gwag ac yn fwy difrifol fyth, cartrefi pobl.  

Drwy gydweithio'n agos gyda'r Heddlu, Crimestoppers,  awdurdodau lleol, mentrau gwarchod y gymdogaeth ac asiantaethau eraill ein nod yw addysgu ac  atal llosgwyr posibl.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen