Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diogelwch Coginio

Diogelwch Coginio

  • Wrth goginio, byddwch yn ofalus os ydych yn gwisgo dillad llac gan y gallant fynd ar dân yn hawdd.

  • Cadwch wifrau trydanol, tyweli a chadachau i ffwrdd o’r popty a’r hob.

  • Peidiwch byth â gadael plant eu hunain yn y gegin.

  • Cadwch fatsis, tanwyr a handlenni sosbenni allan o gyrraedd plant a gosodwch glicied diogelwch ar ddrws y popty.

  • Cadwch y popty, yr hob, y tostiwr a’r gril yn lân – gallai braster, briwsion neu saim gynnau yn hawdd.

  • Peidiwch â defnyddio matsis na thaniwr i danio cwcer nwy – mae teclynnau tanio, y gallwch eu prynu o siopau caledwedd yn llawer mwy diogel.

  • Peidiwch â gadael sosbenni ar y tân pan na fyddwch o gwmpas. Tynnwch nhw oddi ar y gwres os bydd yn rhaid i chi adael y gegin.

  • Rhowch handlenni’r sosbenni ar ongl fel nad ydynt yn pwyntio allan o’r hon na dros fflam noeth.

  • Peidiwch â rhoi unrhyw beth sydd wedi’i wneud o fetel neu sy’n fetalig yn y microdon.

  • Ar ôl i chi orffen coginio, gwnewch yn siŵr eich bod yn troi’r popty a’r hob i ffwrdd.

  • Ystyriwch osod larymau gwres neu giard stof (sef larwm sy’n ffitio ar hobiau trydanol ac sy’n ei sganio rhag bod gormod o wres a mwg), a dylent gydymffurfio â’r safonau BSEN perthnasol a chael eu gosod yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

 

Bwyd – ffrio dwfn

  • Os byddwch yn ffrio bwyd yn ddwfn yn aml, ystyriwch brynu peiriant pwrpasol ar gyfer gwneud hynny. Mae ganddynt thermostat er mwyn sicrhau nad ydynt yn gorboethi a’u bod yn fwy diogel i’w defnyddio.

  • Sychwch y bwyd cyn ei roi yn yr olew poeth er mwyn atal yr olew rhag eich sblasio a’ch llosgi.

  • Os nad oes gennych beiriant ffrio dwfn trydanol ac eich bod yn defnyddio padell gyffredin, peidiwch â’i llenwi fwy na thraean.

  • Os yw’r olew yn dechrau mygu, mae’n rhy boeth. Trowch y gwres i ffwrdd a’i adael i oeri.

  • Os bydd yr olew’n mynd ar dân, diffoddwch yr hob dim ond os yw hynny’n ddiogel. Gwlychwch dywel a’i osod dros y badell. Fodd bynnag, ein cyngor yw gadael yr eiddo a ffonio 999.

    Peidiwch byth â thaflu dŵr ar olew sydd ar dân, bydd hyn yn gwneud i’r tân ledaenu’n gynt.

Gallwch lawrlwytho ein pamffled Sut i gadw'n ddiogel yn y gegin yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen