Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mae Gogledd Cymru’n ardal anhygoel i ymweld â hi. Mae ei thraethau godidog, trefni marchnad traddodiadol ac ardaloedd glan y môr, ynghyd â’i mynyddoedd, ardaloedd cefn gwlad a fforestydd hynafol yn ei gwneud hi’n ardal ddelfrydol i ymwelwyr o bob oed. Dydi hi ddim syndod felly bod y sector twristiaeth yn cynrychioli cyfran fawr o’r economi leol ac mae lletyau hunanarlwyo yn dod yn fwyfwy poblogaidd gydag ymwelwyr â’r rhanbarth.

I gynorthwyo perchnogion y safleoedd hyn i gwrdd â’u goblygiadau cyfreithiol, mae’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi gweithio mewn partneriaeth i greu dogfen ganllaw yn benodol ar gyfer lletyau hunanarlwyo bach, i amlinellu’r mesurau diogelwch tân gofynnol i helpu i gadw gwesteion yn ddiogel.

Mae’r ddogfen yn cynnwys y canlynol:

  • Eich cyfrifoldebau o dan y gyfraith
  • Cyngor ymarferol ar y math o fesurau diogelwch tân sydd yn addas er mwyn diogelu’n briodol rhag tân
  • Sut i gwblhau asesiad risgiau tân
  • Lle i fynd i gael gwybodaeth bellach

Mae’r ddogfen yn addas ar gyfer lletyau bach sengl gyda llety cysgu ar y llawr daear a/neu lloriau cyntaf, megis tai, bythynnod, chalets neu fflatiau (boed y rheiny mewn blociau fflatiau neu’n dai sydd wedi ei drosi’n fflatiau); lletyau eraill fel carafanau, podiau glampio, cytiau, tai coeden a phebyll.

Rydych yn rhoi gwesteion mewn perygl os nad ydych yn cwrdd â’ch cyfrifoldebau cyfreithiol; ac fe all hyn arwain at gamau gorfodi, cau safleoedd neu hyd yn oed erlyniad.

Os ydych chi’n ystyried trosi neu newid adeilad i fod yn llety hunanarlwyo, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi gysylltu gyda’ch awdurdod lleol ac adran rheoli adeiladau.

Mae’r ddogfen ar gael yma.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen