Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cadw'n ddiogel yn ystod y gaeaf

Cadw'n ddiogel yn ystod y gaeaf

Cadw'n gynnes ond yn ddiogel y Gaeaf hwn

Mae'n bwysig eich bod yn dilyn y cyngor diogelwch canlynol i'ch helpu i leihau'r perygl o dân yn y cartref wrth i chwi wneud mwy i gadw'n gynnes.

  • Byddwch yn ofalus gyda thanau agored. Defnyddiwch gard tân a gwnewch yn siwr bod eich simnai yn lân.
  • Cadwch wresogyddion cludadwy ymhell oddi wrth lenni a dodrefn. Peidiwch byth  â'u gorchuddio ag unrhyw beth.
  • Storiwch flancedi trydan yn fflat neu rholiwch nhw, peidiwch byth â'u plygu. Peidiwch â'u defnyddio os ydi'r gwifrau'n hen neu wedi eu difrodi.
  • Cadwch ganhwyllau ar i fyny, mewn daliwr canhwyllau addas. Peidiwch byth â'u gadael heb neb i gadw llygaid arnnt. Diffoddwch nhw yn llwyr.
  • Os bydd  toriad pwer a bod gennych larymau mwg sydd wedi eu cysylltu i'r prif gyflenwad trydan, edrychwch i weld â yw'r batri wrth gefn yn gweithio.

Os bydd tân, ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.

Cliciwch yma i ddarllen y daflen Cadw'n Ddiogel y Gaeaf Hwn.

Cliciwch yma i ddarllen cyngor Llywodraeth Cymru ar Dywydd Garw.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen