Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddaraid 4 Ymateb aml-asiantaeth i'r tywydd garw yng Ngogledd Cymru

Postiwyd

Y gwaith o chwilio eiddo yn parhau

Mae'r Gwasanaethau Brys yn parhau i chwilio eiddo er mwyn sicrhau nad oes unrhyw bobl agored i niwed a allai ddal i fod yn yr ardaloedd sydd wedi dioddef llifogydd.

Mae'r gwaith o chwilio ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar Lanelwy lle mae 500 o dai wedi eu gwagio.

Mae pympiau yn eu lle i sicrhau bod Ysbyty Glan Clwyd ger Bodelwyddan yn parhau ar agor.

Bydd yr Heddlu hefyd yn cynnal patrolau ychwanegol mewn ardaloedd lle nad yw pobl wedi gallu dychwelyd i'w cartrefi ac maent yn annog unrhyw un sy'n pryderu am ffrindiau neu deulu nad ydynt wedi gallu cysylltu â nhw i ffonio 101.

Yn y cyfamser, mae'r trigolion yn cael eu hannog, er eu diogelwch eu hunain, i beidio â dychwelyd i'w heiddo oni bai bod rhywun yn dweud wrthynt ei bod yn ddiogel i wneud hynny. Dylid gwrando ar y gorsafoedd radio lleol ac edrych ar y gwefannau i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen