Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad 6 - Dydd Mercher 28ain Tachwedd

Postiwyd

Mae'r gwasanaethau brys, cyngor Sir Ddinbych a'r cwmnïau cyfleustodau yn gweithio i sicrhau fod lefelau'r llifogydd yn ardal Llanelwy yn gostwng mor gyflym â phosibl.

Mae ugain o dimau o gwmni  Scottish Power yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau partner o'r Gyd Ganolfan Gyfathrebiadau yn Llanelwy.

Neithiwr caewyd dwy is bwerdy yn Llanelwy er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a staff gwasanaethau brys sy'n gweithio yn yr ardal, a hefyd er mwyn cynnal cyflenwadau i rannau eraill o'r ddinas.  O ganlyniad i hyn roedd nifer fawr o gartrefi heb bŵer ac mae gwaith ar y gweill i adfer cyflenwadau cyn gynted â phosibl.

Bydd angen i nifer fawr o bobl y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt gysylltu â'r ganolfan seibiant yn Ysgol Glan Clwyd neu ffonio llinell gymorth Scottish Power ar 0845 272 2424 gan ei bod yn bosibl y bydd Scottish Power angen mynediad i'w heiddo.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd  Cymru yn parhau i anfon adnoddau i ardal Llanelwy mewn ymateb i'r llifogydd a ddigwyddodd yn dilyn tywydd garw yn Sir Ddinbych.

Mae dau bwmp dŵr cyfaint uchel yn dal ar waith yn ardal Llanelwy.  Mae un pwmp yn eiddo i Wasanaeth Tân ac Achub Glannau Merswy, West Kirby ac wedi cael ei roi ar waith yn yr ardal fel rhan o'r trefniadau ymateb i argyfyngau cenedlaethol.

Mae cyfanswm o wyth adnodd ar waith yn yr ardal o hyd, gan gynnwys Uned Ymateb i Ddigwyddiadau ac Uned Cefnogi Digwyddiadau.

Bydd anghenion pwmpio dŵr ehangach yn cael eu hasesu'n gyson drwy gydol y dydd a chedwir llygad agos ar y rhybuddion llifogydd hynny sydd mewn grym o hyd.

Y brif flaenoriaeth yw diogelu bywydau a chadw'r gymuned yn ddiogel a bydd yr heddlu'n parhau i weithio gyda'i bartneriaid aml-asiantaeth i sicrhau bod hynny'n digwydd.

Mae'r ffyrdd yn dechrau ailagor y bore 'ma ond cynghorir pobl i ffonio neu edrych ar wefan Traffig Cymru, neu wrando ar y gorsafoedd radio lleol cyn teithio, i gymryd gofal a gyrru fel sy'n briodol ar gyfer yr amodau.

Dilynwch gyngor Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch yr hyn sydd angen ei wneud os oes llifogydd:

/keeping-you-safe/near-water/advice.aspx?lang=en

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen