Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Agoriad Swyddogol Yn Dynodi Partneriaeth Newydd Gyda Gwylwyr y Glannau

Postiwyd

Heddiw (Dydd Gwener 16 Mawrth) croesawodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn swyddogol i Orsaf Dân y Fflint lle bydd y ddau sefydliad yn cydweithio i amddiffyn y cyhoedd fel rhan o bartneriaeth newydd.

Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn gyfrifol am arbed bywydau a chydlynu timau chwilio ac achub ar y môr gyda Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi.

Mae Garry Jones  sydd yn Swyddog Gorsaf yng Ngorsaf Gwylwyr y Glannau'r Fflint yn egluro mwy: " Mae Gorsaf Gwylwyr y Glannau'r Fflint wedi bod yn chwilio am safle newydd yn y Fflint ers peth amser ac rydym yn falch bod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cytuno i ni ddefnyddio'r bae yng Ngorsaf Dân y Fflint .

"Mae hyn yn rhoi cyfle gwych i ni feithrin partneriaeth newydd a gwneud y defnydd gorau posib o'n hadnoddau er bydd y ddau barti."

Dywedodd Kevin Brain, Rheolwr Ymateb gyda Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru: "Gan bod gennym le nad ydym yn ei ddefnyddio yn yr orsaf rydym yn hapus i gadw peiriant ymateb Gwylwyr y Glannau yng Ngorsaf Dân y Fflint.

"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ac rydym wedi arfer gweithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus ar sawl achlysur.  Mae'n ein galluogi i gynnig y gwasanaeth gorau posib yn ogystal â'n helpu i arbed costau."

Cynhaliwyd y seremoni agoriadol yng Ngorsaf Dân y Fflint am 13:00 o'r gloch yng nghwmni  Davy Thompson, Rheolwr Diogelwch Arfordirol Gwylwyr y Glannau, Wil Williams, Rheolwr Sector  Clwyd, Y Prif Swyddog Tân Simon Smith,  Y Gwir Anrhydeddus David Hanson AS, Sandy Mewies AC, Maer a Maeres y Fflint yn ogystal  â chynrychiolwyr  o'r  the RNLI.

Yn y llun: (Ar y chwith) Simon Smith- Prif Swyddog Tân a Phrif Weithredwr, ynghyd â chynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (Ar y dde) Davy Thompson , Rheolwr Diogelwch Arfordirol Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi ynghyd ag aelodau Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen