Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio Ynglŷn â Defnyddiau Ysmygu Yn Dilyn Tanau a Ddigwyddodd Dros Nos

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i ddwyn i'r amlwg bwysigrwydd gwaredu defnyddiau ysmygu yn ofalus yn dilyn dau dân tebyg a ddigwyddodd o fewn ychydig oriau i'w gilydd yn Sir Ddinbych.

Galwyd criwiau i eiddo ar Stryd y Bont, Llangollen am 06:11o'r gloch y bore yma (Dydd Mawrth, 27 Mawrth) ar ôl i ddeiliad arogli mwg yn ystafell un o'r lletywyr. Ar ôl cyrraedd, canfu'r diffoddwyr tân bod defnyddiau ysmygu wedi cynnau tân mewn bin sbwriel ar ôl cael eu gwaredu'n ddiofal.

Yna, cafodd diffoddwyr tân eu galw i dŷ pâr yng Nghae Gruffydd, Y Rhyl y bore yma am 08:26 o'r gloch, ar ôl cael eu rhybuddio gan y deiliaid bod yr ystafell wely yn llawn mwg. Ar ôl ymchwilio daethant o hyd i dân bychan a achoswyd gan sigarét a oedd wedi ei thaflu i fasged sbwriel yn llawn papur.

Dywedodd Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych: "Mae'r digwyddiadau hyn yn dwyn i'r amlwg beryglon peidio â diffodd sigaréts yn llwyr ac mewn blychau pwrpasol.

"Mae'n hanfodol gwneud yn siŵr bod defnyddiau ysmygu yn cael eu diffodd yn ddiogel, yn enwedig cyn mynd i'r gwely. Y ffordd orau i leihau'r risg yw peidio ag ysmygu yn y tŷ. Mae nifer o danau sydd yn ymwneud ag ysmygu yn cynnau yn ystod y nos ar ôl i bobl syrthio i gysgu neu'n ysmygu yn y gwely ac yn rhoi ddodrefn neu ffabrigau ar dân.

"Rhywbeth arall sydd yn peri pryder yw'r ffaith fod ysmygwyr yn llai tebygol o osod larymau mwg gweithredol yn eu cartrefi. Mar larymau mwg yn rhybuddio os bydd tân yn cynnau ac yn rhoi cyfle i bobl ddianc yn ddiogel.

"Os oes gennych chi berthnasau oedrannus neu ffrindiau sydd yn ysmygu, cofwich wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r peryglon - drwy ddilyn y camau isod gallant leihau'r tebygolrwydd o ddioddef tân yn eu cartref:

-Cymrwch bwyll os ydych wedi blino, yn cymryd cyffuriau o unrhyw fath neu wedi bod yn yfed alcohol. Hawdd iawn yw syrthio i gysgu tra bo'r sigarét yn dal i fudlosgi.

- Peidiwch byth ag ysmygu yn y gwely - os oes rhaid i chi orffwys, peidiwch â thanio. Hawdd iawn yw pendwmpian a rhoi eich gwely ar dân.

- Peidiwch fyth â gadael sigarét, sigâr neu getyn i fudlosgi heb fod neb yno -gallant syrthio neu gael eu bwrw i'r llawr tra'n dali fudlosgi.

- Prynwch danwyr a matsis sydd wedi eu diogelu rhag plant - bob blwyddyn mae plant yn marw ar ôl cynnau tanau'n ddamweiniol gyda thanwyr neu fatsis. Cadwch hwy ymhell o gyrraedd plant.

- Defnyddiwch flwch llwch trwm a phwrpasol na all gael ei daro i'r llawr yn hawdd. Gwnewch yn siŵr ei fod wedi ei wneud o ddefnydd anllosgadwy. Gwnewch yn siŵr nad yw eich sigarét yn dal i losgi unwaith y byddwch wedi gorffen - diffoddwch hi, yn llwyr.

- Rowch y lludw yn y blwch llwch ac nid mewn bin sbwriel - cofiwch ei wagio'n rheolaidd fel na fydd y lludw a'r bonion yn pentyrru.

- Gosodwch larwm mwg a'i gynnal a'i gadw'n rheolaidd - unwaith y bydd tân wedi cynnau, dim ond ychydig funudau fydd gennych i ddianc. Gall larwm mwg gweithredol roi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999. Gallwch brynu larwm mwg am bris pecyn o sigaréts. Gwell fyth yw'r larymau hynny sydd gan fatri hir oes neu sydd wedi eu cysylltu i'r prif gyflenwad trydan.

"Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig Archwiliadau Diogelwch Tân yn y Cartref am ddim i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Yn ystod yr archwiliad diogelwch tân bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn eich helpu i lunio cynllun dianc, rhannu cynghorion diogelwch tân yn y cartref ac, os oes angen, yn gosod larymau mwg am ddim. Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref am ddim, galwch ein llinell frys 24 awr ar 0800 169 1234, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch e-bost at dtc@gwastan-gogcymru.org.uk."


Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen