Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwraig Oedrannus Yn Dianc Tân Mewn Tŷ Ger Yr Wyddgrug

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn awyddus i ddwyn i'r amlwg bwysigrwydd larymau mwg wedi i wraig 80 mlwydd oed ddianc yn ddiogel o dân yn ei chartref ger yr Wyddgrug.

Galwyd criwiau o Lannau Dyfrdwy, yr Wyddgrug a Rhuthun i'r digwyddiad ger Llanarmon-yn-iâl am 12.14 o'r gloch ar ôl cal eu rhybuddio gan system larwm Care-Link a oedd yn seinio yn yr eiddo.

Mae Andy Robb o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn egluro mwy; "Roedd modd i ni weithio gyda Care-Link i gynghori'r preswylydd i adael yr eiddo'n ddiogel ac fe dderbyniodd driniaeth yn y fan a'r lle oherwydd ei bod wedi anadlu mwg.

"Cychwynnodd y tân mewn basged wiail a oedd yn agos at y stôf goed ar ôl i wreichion danio papurau a choed yn y fasged.

"Rydym yn cynghori pobl i beidio â gosod eitemau gwiail yn agos at ffynonellau gwres - efallai ei bod yn edrych yn ddeniadol iawn ond gallant fynd ar dân yn hawdd iawn.

"Yn anad dim, bu i'r cyfuniad o larwm mwg gweithredol a chyswllt gydag chymorth allanol achub bywyd y wraig ac oherwydd ein bos wedi cyrraedd mewn da bryd roedd modd i ni leihau'r difrod a achoswyd i'r eiddo. Roedd y larymau mwg yn yr eiddo wedi eu gosod gan staff y gwasanaeth tân ac achub yn ystod archwiliad diogelwch tân yn y cartref.
"Defnyddiodd ddiffoddwyr tân ddau set o offer anadlu, pibell ddŵr a chamera delweddu thermol i ddelio gyda'r digwyddiad.


"Oherwydd eu bod yn rhoi rhybudd cynnar mae larymau mwg yn golygu'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn darparu archwiliadau diogelwch tân yn y cartref i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Yn ystod yr archwiliad bydd aelod o staff yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân ac, os oes angen, yn gosod larymau mwg newydd yn eich cartref. I gofrestru, galwch linell rhadffôn 24 awr Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 0800 169 1234 ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges."


Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen