Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio ymgyrch gwarchod ysgolion yn Sir Gonwy

Postiwyd

Mae ymgyrch sy'n annog trigolion i gadw golwg ar eu hysgol leol wedi cael ei lansio yng Nghonwy.

Mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych, bwriad yr ymgyrch Gwarchod Ysgolion yw annog rhieni, trigolion, athrawon, y gwasanaethau brys ynghyd â'r awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd er mwyn cadw ysgolion yn ddiogel rhag trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yr wythnos hon mi wnaeth disgyblion Ysgol Porth y Felin yng Nghonwy gyfarfod swyddogion o'r Tîm Plismona'r Gymdogaeth lleol, staff o'r Adran Diogelwch Cymunedol, y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, y Gwasanaeth Tân ac Achub a staff o Adran Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Meddai Ifan Hughes, Swyddog Diogelwch Cymunedol: "Mae'r ysgolion ar fin cau am wyliau'r haf, ac rydym yn apelio ar aelodau o'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw ymddygiad amheus y maent yn ei weld o amgylch tir yr ysgol.

"Yn y gorffennol, mae ysgolion wedi cael eu fandaleiddio a'u gorchuddio â graffiti. Yn syml, rydym yn gofyn i bobl sy'n byw ger ysgol i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw ymddygiad amheus i'r heddlu."

Fe ychwanegodd: "Hon fydd yr wythfed flwyddyn i ni gynnal y cynllun ac rydym wedi gweld gostyngiad yn y nifer o broblemau sy'n cael eu riportio, ond nid ydym yn hunanfodlon.  Gallwn i gyd fod yn rhan o'r cynllun hwn, felly os ydych yn byw ger ysgol, os ydych yn gallu gweld ysgol o'ch tŷ, neu os ydych yn cerdded neu yn gyrru heibio ysgol yn eithaf aml, yna mi allwch chi helpu."

Meddai Tom Pye, Rheolwr Partneriaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych  : "Yn hanesyddol, mae ysgolion wedi dioddef o fandaliaeth a thanau bwriadol, a bwriad yr ymgyrch hon yw taclo'r problemau hyn cyn iddynt ddigwydd."

Meddai Mr Dilwyn Griffiths, Pennaeth Ysgol Porth y Felin: "Mae hwn yn rhywbeth yr ydym yn ei groesawu. Mae ysgolion yn agored i gael eu targedu dros gyfnod y gwyliau, felly po fwyaf y gallwn weithio gyda rhieni ac aelodau'r gymuned i geisio lleihau difrod troseddol i'r ysgol, yna lleia'n byd fydd y siawns y bydd addysg y disgyblion yn cael ei amharu."

Bydd arwyddion arbennig, sydd wedi cael eu hariannu gan y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol, yn cael eu gosod ar giatiau'r ysgolion, ac mae dros 8,000 o bamffledi a phosteri wedi cael eu dosbarthu drwy Gonwy a Sir Ddinbych. Bydd y cynllun yn cael ei lansio mewn ardaloedd eraill o Ogledd Cymru dros y pythefnos nesaf.

Bydd swyddogion tân sy'n dychwelyd i'w gorsafoedd ar ôl bod allan ar alwad, yn ogystal â hofrennydd yr heddlu hefyd yn cadw llygad ar ysgolion.

Dylai unrhyw un sy'n dyst i ymddygiad amheus ger ysgol gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111. Mewn argyfwng dylech ffonio 999.

Cofiwch: Ydych chi'n byw ger ysgol neu yn gallu gweld ysgol o'ch tŷ? Ydych chi'n cerdded neu'n gyrru heibio ysgol yn rheolaidd?

Os mai 'YDW' yw'r ateb yna gallwch chi ein helpu!

Edrychwch ar yr ysgol am ychydig o funudau.

Os gwelwch unrhyw beth amheus - dywedwch wrth yr heddlu drwy ffonio 101!

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen