Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Taflu goleuni ar ymgyrch diogelwch tân trydanol newydd!

Postiwyd

Mae teulu o saith a gafodd eu hachub drwy ffenestr o dân trydanol yn eu cartref yn Abermaw yn cynorthwyo diffoddwyr tân lleol i dynnu sylw trigolion lleol i'w hymgyrch 'Taflu goleuni ar ddiogelwch tân!'.

Heddiw (Dydd Gwener 19eg Ebrill 2013) mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lansio ei ymgyrch diogelwch tân trydanol newydd sbon danlli gyda chefnogaeth y teulu Griffith er mwyn helpu i dynnu sylw pobl at bwysigrwydd cadw'n ddiogel yn y cartref.

Fel rhan o'r ymgyrch 'Taflu goleuni ar ddiogelwch tân!' bydd staff y gwasanaeth tân ac achub yn ymweld ag archfarchnadoedd ar hyd a lled Gogledd Cymru i sôn am bwysigrwydd diogelwch tân gyda siopwyr.  Bydd gofyn i siopwyr gwblhau cwis syml ar ddiogelwch tân, ac am wneud hynny byddant yn derbyn lîd estyn ynghyd â chyngor ar sut i ddefnyddio cyfarpar trydanol  yn ddiogel.

Mae'r teulu Griffith yn ymddangos yn yr ymgyrch sydd yn egluro sut y gall tân ddigwydd yn unrhyw le, ar unrhyw adeg.

Ym mis Chwefror eleni cafodd, Dawn Griffith, 40, ei gŵr Daniel Griffith, 36 a'u plant Charlie Burgess, 17, Pipi Griffith, 6 a Daniel Griffith, 2 ynghyd â'i nith  Poppy Jones, 5 a David Jones, 30, tad Poppy, eu caethiwo yn eu fflat ar Stryd Fawr Abermaw wedi i dân eu rhwystro rhag defnyddio eu llwybr dianc.

Llwyddodd y teulu i ddianc drwy ffenestr ar ôl i larymau mwg a osodwyd gan ddiffoddwyr tân lleol seinio rhybudd.  Roedd y tân wedi cychwyn yn y peiriant golchi.  

Galwodd Dawn, mam y plant,  999 ar ôl i'w gŵr, Daniel, ei rhybuddio am y tân.  Fe arhosodd Dawn ar y ffôn i wrando ar gyngor dianc o dân gan Dafydd Roberts un o swyddogion                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                   yr ystafell reoli, wrth i ddiffoddwyr tân frysio  i'r safle i helpu'r teulu ddianc o'r adeilad gydag ysgolion.   Cewch wrando ar yr alwad 999 gan Dawn drwy glicio ar y ddolen yma./p>

Meddai: "Doeddwn i erioed yn meddwl y gallai rhywbeth fel hyn ddigwydd i ni.  Mae tanau'n digwydd i bobl eraill, nid chi -dyna beth o'n i'n arfer meddwl beth bynnag.

"Doeddwn i erioed wedi cael archwiliad diogelwch tân yn y cartref nac wedi meddwl sut y byddem ni'n dianc o dân.  Dwi'n meddwl bod cynlluniau dianc yn hynod bwysig - pan fydd rhywun wedi cynhyrfu, mae'n bwysig gwybod beth i'w wneud a lle i fynd.  Gallai olygu'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw.  Erbyn hyn rydw i wedi gwneud yn siŵr bod fy chwiorydd a'm teulu yn meddwl am sut y byddent hwy'n dianc o dân.

"Diolch byth bod y criwiau wedi gosod larymau mwg cyn i ni symud i'r fflat.  Rhoddodd y larymau rybudd cynnar i ni a'n galluogi i alw 999 i gael help.  Does wybod beth fyddai wedi digwydd pe na byddai'r larymau mwg wedi seinio rhybudd.

"Mae'r larymau mwg wedi achub fy nheulu.  Fel Mam, rwyf yn erfyn ar bob Mam arall i wneud yn siŵr bod eu larymau mwg yn gweithio a'u bod yn gwybod sut y byddent yn dianc o dân yn y cartref.

"Mae'r gwasanaeth tân ac achub yn gwneud gwaith gwych - ni allaf ddiolch digon iddynt.  Drwy gefnogi'r ymgyrch hon, rydw i'n gobeithio y gallwn ni eu  helpu i rannu eu negeseuon achub bywyd â chymaint o bobl â phosibl." MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn cael ein galw i oddeutu 470 o danau damweiniol yn y cartref bob blwyddyn ac y mae trydan neu offer trydanol yn gyfrifol am dros 300 o'r tanau hyn.

"Mae oddeutu  90 o'r rhain yn digwydd o ganlyniad i nam trydanol - ond mae'r rhan fwyaf yn digwydd oherwydd bod pobl yn camddefnyddio offer trydanol.  Mae'n bwysig bod pobl yn defnyddio cyfarpar trydanol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a bod pobl yn archwilio eu hoffer trydanol a'u lidiau rhag ofn eu bod wedi cael eu difrodi neu wedi treulio.   Y mae cymaint o bobl yn defnyddio offer trydanol hen neu beryglus ac yn gorlwytho socedi, sydd yn achosi peryglon tân difrifol.

"Dyma pam ein bod ni'n credu ei bod hi'n bwysig i ni rannu ein negeseuon diogelwch trydanol gyda'n trigolion.  Drwy ymweld ag archfarchnadoedd gallwn siarad gyda phobol o bob cwr o'r rhanbarth, rhannu lidiau  estyn  am ddim â hwy yn ogystal â rhannu cynghorion diogelwch perthnasol a fydd yn ein helpu i leihau nifer y tanau trydanol yn ein rhanbarth.  

"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r teulu Griffith am rannu eu stori. Oni bai am y larymau mwg mae'n bosib y byddem wedi gorfod delio gyda digwyddiad trasig iawn yn Abermaw - mae'r stori yma yn dangos pa mor bwysig yw hi i bobl wneud yn siŵr bod ganddynt larymau mwg a'u bod wedi ymarfer eu cynlluniau dianc fel y gallant hwy a'u teulu ddianc o dân yn ddiogel.

"Mae pawb yn credu na fyddant hwy fyth yn dioddef tân yn y cartref - ond mae stori'r teulu Griffith yn dangos y gall tanau fel hyn ddigwydd i unrhyw un.  Fy nghyngor i yw byddwch yn barod a chadwch yn ddiogel - rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn allweddol o ran ein helpu i rannu'r neges bwysig hon i gymunedau ar hyd a lled Gogledd Cymru.

"Pam na rowch chi gynnig ar ein cyfrifiannell 'ampau' sydd ar ein gwefan a'n tudalen Facebook - mae'n rhoi gwybod os ydych chi'n gorlwytho socedi a bydd yn eich helpu i gadw'n ddiogel rhag tân trydanol."

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymweld â'r archfarchnadoedd canlynol rhwng 10am a 3pm ar ddyddiau Gwener dros yr wythnosau nesaf fel rhan o'r ymgyrch diogelwch tân trydanol:

Conwy a Sir Ddinbych

17eg Mai - Conwy - Asda Llandudno

31ain Mai - Sir Ddinbych - Morrisons Y Rhyl

 

Wrecsam a Sir y Fflint

3ydd Mai- Wrecsam - Asda Wrecsam

7fed  Mehefin - Sir y Fflint- Asda Y Fferi Isaf

 

Gwynedd a Môn

10fed Mai - YnysMôn - Asda Llangefni

14eg  Mehefin -  Morrisons Caernarfon

 

 

 

Am gyngor ar ddiogelwch tân trydanol ac i roi cynnig ar ein cyfrifiannell 'ampau'  ewch i  www.gwastan-gogcymru.org.uk neu www.facebook/northwalesfireservice.

 

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, lle byddwn yn gosod larymau mwg am ddim, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 1691243, e-bost dtc@gwastan-gogcymru.org.uk ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC a

 

 

 

 

 

 

 

Embargo hyd nes Dydd Gwener 19eg Ebrill 2013

 

Taflu goleuni ar ymgyrch diogelwch tân trydanol newydd!

 

Mae teulu o saith a gafodd eu hachub drwy ffenestr o dân trydanol yn eu cartref yn Abermaw yn cynorthwyo diffoddwyr tân lleol i dynnu sylw trigolion lleol i'w hymgyrch 'Taflu goleuni ar ddiogelwch tân!'.

 

Heddiw (Dydd Gwener 19eg Ebrill 2013) mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lansio ei ymgyrch diogelwch tân trydanol newydd sbon danlli gyda chefnogaeth y teulu Griffith er mwyn helpu i dynnu sylw pobl at bwysigrwydd cadw'n ddiogel yn y cartref.

 

Fel rhan o'r ymgyrch 'Taflu goleuni ar ddiogelwch tân!' bydd staff y gwasanaeth tân ac achub yn ymweld ag archfarchnadoedd ar hyd a lled Gogledd Cymru i sôn am bwysigrwydd diogelwch tân gyda siopwyr.  Bydd gofyn i siopwyr gwblhau cwis syml ar ddiogelwch tân, ac am wneud hynny byddant yn derbyn lîd estyn ynghyd â chyngor ar sut i ddefnyddio cyfarpar trydanol  yn ddiogel.

 

Mae'r teulu Griffith yn ymddangos yn yr ymgyrch sydd yn egluro sut y gall tân ddigwydd yn unrhyw le, ar unrhyw adeg.

 

Ym mis Chwefror eleni cafodd, Dawn Griffith, 40, ei gŵr Daniel Griffith, 36 a'u plant Charlie Burgess, 17, Pipi Griffith, 6 a Daniel Griffith, 2 ynghyd â'i nith  Poppy Jones, 5 a David Jones, 30, tad Poppy, eu caethiwo yn eu fflat ar Stryd Fawr Abermaw wedi i dân eu rhwystro rhag defnyddio eu llwybr dianc.

 

Llwyddodd y teulu i ddianc drwy ffenestr ar ôl i larymau mwg a osodwyd gan ddiffoddwyr tân lleol seinio rhybudd.  Roedd y tân wedi cychwyn yn y peiriant golchi.  

 

Galwodd Dawn, mam y plant,  999 ar ôl i'w gŵr, Daniel, ei rhybuddio am y tân.  Fe arhosodd Dawn ar y ffôn i wrando ar gyngor dianc o dân gan Dafydd Roberts un o swyddogion                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                   yr ystafell reoli, wrth i ddiffoddwyr tân frysio  i'r safle i helpu'r teulu ddianc o'r adeilad gydag ysgolion.   Cewch wrando ar yr alwad 999 gan Dawn drwy glicio ar y ddolen yma ( /keeping-you-safe/current-campaigns/current-campaigns.aspx?lang=cy)

 

 

Meddai: "Doeddwn i erioed yn meddwl y gallai rhywbeth fel hyn ddigwydd i ni.  Mae tanau'n digwydd i bobl eraill, nid chi -dyna beth o'n i'n arfer meddwl beth bynnag.

 

"Doeddwn i erioed wedi cael archwiliad diogelwch tân yn y cartref nac wedi meddwl sut y byddem ni'n dianc o dân.  Dwi'n meddwl bod cynlluniau dianc yn hynod bwysig - pan fydd rhywun wedi cynhyrfu, mae'n bwysig gwybod beth i'w wneud a lle i fynd.  Gallai olygu'r gwahaniaeth rhwng byw neu farw.  Erbyn hyn rydw i wedi gwneud yn siŵr bod fy chwiorydd a'm teulu yn meddwl am sut y byddent hwy'n dianc o dân.

 

"Diolch byth bod y criwiau wedi gosod larymau mwg cyn i ni symud i'r fflat.  Rhoddodd y larymau rybudd cynnar i ni a'n galluogi i alw 999 i gael help.  Does wybod beth fyddai wedi digwydd pe na byddai'r larymau mwg wedi seinio rhybudd.

 

"Mae'r larymau mwg wedi achub fy nheulu.  Fel Mam, rwyf yn erfyn ar bob Mam arall i wneud yn siŵr bod eu larymau mwg yn gweithio a'u bod yn gwybod sut y byddent yn dianc o dân yn y cartref.

 

"Mae'r gwasanaeth tân ac achub yn gwneud gwaith gwych - ni allaf ddiolch digon iddynt.  Drwy gefnogi'r ymgyrch hon, rydw i'n gobeithio y gallwn ni eu  helpu i rannu eu negeseuon achub bywyd â chymaint o bobl â phosibl." MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn cael ein galw i oddeutu 470 o danau damweiniol yn y cartref bob blwyddyn ac y mae trydan neu offer trydanol yn gyfrifol am dros 300 o'r tanau hyn.

 

"Mae oddeutu  90 o'r rhain yn digwydd o ganlyniad i nam trydanol - ond mae'r rhan fwyaf yn digwydd oherwydd bod pobl yn camddefnyddio offer trydanol.  Mae'n bwysig bod pobl yn defnyddio cyfarpar trydanol yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a bod pobl yn archwilio eu hoffer trydanol a'u lidiau rhag ofn eu bod wedi cael eu difrodi neu wedi treulio.   Y mae cymaint o bobl yn defnyddio offer trydanol hen neu beryglus ac yn gorlwytho socedi, sydd yn achosi peryglon tân difrifol.

 

 

"Dyma pam ein bod ni'n credu ei bod hi'n bwysig i ni rannu ein negeseuon diogelwch trydanol gyda'n trigolion.  Drwy ymweld ag archfarchnadoedd gallwn siarad gyda phobol o bob cwr o'r rhanbarth, rhannu lidiau  estyn  am ddim â hwy yn ogystal â rhannu cynghorion diogelwch perthnasol a fydd yn ein helpu i leihau nifer y tanau trydanol yn ein rhanbarth.

 

 

"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r teulu Griffith am rannu eu stori. Oni bai am y larymau mwg mae'n bosib y byddem wedi gorfod delio gyda digwyddiad trasig iawn yn Abermaw - mae'r stori yma yn dangos pa mor bwysig yw hi i bobl wneud yn siŵr bod ganddynt larymau mwg a'u bod wedi ymarfer eu cynlluniau dianc fel y gallant hwy a'u teulu ddianc o dân yn ddiogel.

 

"Mae pawb yn credu na fyddant hwy fyth yn dioddef tân yn y cartref - ond mae stori'r teulu Griffith yn dangos y gall tanau fel hyn ddigwydd i unrhyw un.  Fy nghyngor i yw byddwch yn barod a chadwch yn ddiogel - rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch yn allweddol o ran ein helpu i rannu'r neges bwysig hon i gymunedau ar hyd a lled Gogledd Cymru.

 

"Pam na rowch chi gynnig ar ein cyfrifiannell 'ampau' sydd ar ein gwefan a'n tudalen Facebook - mae'n rhoi gwybod os ydych chi'n gorlwytho socedi a bydd yn eich helpu i gadw'n ddiogel rhag tân trydanol."

 

 

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymweld â'r archfarchnadoedd canlynol rhwng 10am a 3pm ar ddyddiau Gwener dros yr wythnosau nesaf fel rhan o'r ymgyrch diogelwch tân trydanol:

 

Conwy a Sir Ddinbych

 

17eg Mai - Conwy - Asda Llandudno

 

31ain Mai - Sir Ddinbych - Morrisons Y Rhyl

 

 

Wrecsam a Sir y Fflint

 

3ydd Mai- Wrecsam - Asda Wrecsam

 

7fed  Mehefin - Sir y Fflint- Asda Y Fferi Isaf

 

 

Gwynedd a Môn

 

 

10fed Mai - YnysMôn - Asda Llangefni

 

14eg  Mehefin -  Morrisons Caernarfon

 

 

 

Am gyngor ar ddiogelwch tân trydanol ac i roi cynnig ar ein cyfrifiannell 'ampau'  ewch i  www.gwastan-gogcymru.org.uk neu www.facebook/northwalesfireservice.

 

Am archwiliad diogelwch tân yn y cartref, lle byddwn yn gosod larymau mwg am ddim, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 1691243, e-bost dtc@gwastan-gogcymru.org.uk ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan roi HFSC ar ddechrau'r neges.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen