Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu pwysigrwydd larymau mwg yn dilyn tân yn Rhosmeirch

Postiwyd

 

Y mae uwch swyddog tân yn amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol wedi i gwpl oedrannus gael eu rhybuddio am dân yn eu cartref yn Rhosmeirch yn ystod oriau mân y bore yma.

 

Cafodd diffoddwyr tân o Langefni a Phorthaethwy eu galw i'r tŷ sengl yn Rhosmeirch, Llangefni am 04.11 o'r gloch y bore yma, Dydd Iau Ionawr 2il.  Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân chwe set o offer anadlu i ddelio gyda'r tân.

 

Cafodd y preswylwyr, cwpl yn eu 70au, eu rhybuddion am y tân gan larymau mwg a osodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a chawsant gyngor dianc o dân gan staff yr ystafell reoli cyn cael eu tywys i fan diogel gan ddiffoddwyr tân.

 

Cawsant eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans am driniaeth ragofalus ond maent  wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty erbyn hyn.

 

Fe achosodd y tân ddifrod mwg sylweddol i'r llawr gwaelod a'r llawr cyntaf a rhywfaint o ddifrod tân  yn yr ystafell fyw.  Credir ei fod yn  dân trydanol.

 

Meddai Darren Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Gall larymau mwg achub bywydau ac mae'r digwyddiad hwn yn dyst i hyn - oherwydd bod y larwm wedi seinio ar unwaith llwyddodd y preswylwyr i alw 999 a chawsant gyngor dianc o dân gan staff yr ystafell reoli cyn cael eu tywys i fan diogel gan ddiffoddwyr tân.

 

"Mae'r math yma o ddigwyddiad yn dangos pwysigrwydd larymau mwg - gallant achub eich bywyd chi a'ch anwyliaid. Cafodd y larymau mwg hyn eu gosod dan aelod o'r Gwasanaeth yn rhad ac am ddim yn ystod archwiliad diogelwch tân yn y cartref - dylai pawb osod larymau mwg gweithredol yn y cartref.

 

"Credir mai tân trydanol ydoedd hwn - os ydych chi'n poeni a yw offer trydan neu wifrau trydan yn ddiogel i'w defnyddio gofynnwch i drydanwr cyfrifol a chymwys eu profi.

"Rydym yn cael ein galw i oddeutu 470 o danau damweiniol yn y cartref bob blwyddyn a thrydan neu offer trydanol sydd yn gyfrifol am dros 300 o'r rhain.

 

"Y mae oddeutu 90 o'r rhain wedi ei achosi gan nam trydanol - ond mae'r rhan fwyaf yn digwydd oherwydd nad ydy pobl yn defnyddio'r offer hyn yn gywir.  Mae'n bwysig defnyddio'r offer yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a phrofi'r eitemau trydanol ac edrych i weld a ydy'r lidiau wedi difrodi neu dreulio.

 

"Diffoddwch gyfarpar trydanol os nad ydych yn eu defnyddio, oni bai eu bod i fod i gael eu gadael ymlaen.  Peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau - defnyddiwch lidiau estyn sydd gan ffiws cywir.  Defnyddiwch ein cyfrifiannell ampau www.gwastan-gogcymru.org.uk/Eich cadw chi'n ddiogel / gofalu am offer trydanol neu dilynwch y ddolen hon /looking-after-the-electrics.aspx?lang=cy "

 

Am gyngor pellach ar ddiogelwch tân ac am gyfle i gael gosod larymau mwg am ddim yn eich cartref, cysylltwch gyda Gwasanaeth Tân ac AChub Gogledd Cymru i drefnu archwiliad diogelwch tân.

 

I gofrestru, galwch ein llinell rhadffôn 24 awr 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk neu anfonwch neges destun i 88365, gan wneud yn siŵr eich bod yn rhoi HFSC ar ddechrau'r neges.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen