Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diweddariad Llifogydd

Postiwyd

Mae'r ymateb aml-asiantaeth i'r llifogydd bellach wedi dod i ben am y tro.

 

Meddai'r Prif Uwcharolygydd Jeremy Vaughan a arweiniodd yr ymateb ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Yn ffodus iawn, roedd nifer u digwyddiadau lleol yn isel iawn. Fodd bynnag, roeddem wedi paratoi ar gyfer y gwaethaf  o gofio'r bygythiadau difrifol o lifogydd ledled yr ardal. Y tro hwn, roedd yr effaith yn llai na'r disgwyl ac fe allai pethau fod wedi bod yn llawer gwaeth."

 

"Hoffwn atgoffa pobl y bydd rhybuddion difrifol o lifogydd ond yn cael eu gwneud pan fo gwir risg i fywyd ac eiddo ac mae angen cymryd rhybuddion o'r fath o ddifrif. Mae angen i bobl sy'n byw mewn ardaloedd sy'n cael eu heffeithio arnynt wneud trefniadau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel pan roddir rhybuddion o'r fath."

 

Fe ddylai pobl sy'n byw mewn ardaloedd sy'n debygol o ddioddef llifogydd sicrhau eu bod wedi cofrestru â system rhybudd llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Mae gwybodaeth am sut i wneud hynny, ynghyd â manylion am ddiweddariadau llifogydd ar gael ar y wefan: http://www.naturalresourceswales.gov.uk/

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen