Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd o lifogydd difrifol

Postiwyd

Mae rhybudd o lifogydd difrifol wedi'i gyhoeddi ar gyfer Maes Glas a'r Parlwr Du ac mae pobl yn yr ardaloedd hynny bellach yn cael eu hannog i gymryd camau i sicrhau diogelwch eu hunain a, lle bo hynny'n bosibl, eu cartrefi.

Mae mannau penodol yn cynnwys yr iard sgrap, parc busnes Maes Glas, yr adnodd compostio, ardal Penlon, y gwaith carthffosiaeth a Strand View a Strand Villas. Mae Parlwr Du yn cynnwys cymuned Talacre o'r man nwy i Dyn y Marfa.

Meddai'r Prif Uwcharolygydd Jeremy Vaughan o Heddlu Gogledd Cymru, sy'n arwain yr ymateb: Bydd rhybuddion difrifol o lifogydd ond yn cael eu gwneud pan fo gwir risg i fywyd ac eiddo ac mae angen cymryd y rhybudd hwn o ddifrif. Mae angen i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio arnynt wneud trefniadau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel."

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn agor dwy ganolfan orffwys. Anogir pobl sy'n gadael eu heiddo i aros gyda pherthnasau a ffrindiau i hysbysu Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101.

Mae Rhybuddion Llifogydd hefyd yn eu lle ar gyfer rhannau o'r Rhyl a'r Rhodfa'r Gorllewin o Ffordd Butterton i Rodfa Sydenham, Bae Cinmel - y rhan flaen o Barc Gwyliau Sunnyvale i faes carafannau Golden Sands, gan gynnwys y promenâd. Hefyd, ym Mhrestatyn, mae rhannau helaeth ar hyd ffordd yr arfordir o gyrion y Rhyl tuag at Gwrs Golff Prestatyn lle mae rhybuddion yn weithredol.

Meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn rhybuddio pobl i osgoi mynd at y môr o ganlyniad i'r risg o gael eu taro neu eu tynnu i'r môr gan y tonnau neu gael eu taro gan eitemau sy'n dod o'r môr. Gall dŵr llifogydd fod yn hynod o beryglus ac ni ddylai pobl geisio cerdded neu yrru drwyddo oni bai eu bod yn cael cyfarwyddyd gan y Gwasanaethau Brys.

Mae mwy o wybodaeth ar gael drwy fynd i http://www.environment-agency.gov.uk/

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen