Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cael hyd i gorff ar ôl tân mewn tŷ ger Caernarfon

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn bresennol ar hyn o bryd mewn tân mewn tŷ ger Caernarfon lle cafwyd hyd i gorff dyn.

Galwyd dau griw tân o Gaernarfon i adroddiadau o dân mewn eiddo ar Penrallt, Saron am 16.49 o’r gloch heddiw (dydd Mawrth 15fed Rhagfyr).

Ar ôl cyrraedd, roedd diffoddwyr tân yn wynebu eiddo llawn mwg, ac fe gafwyd hyd i berson wedi marw, y credir iddo fod yn ddyn yn ei 80au. Defnyddiodd y criwiau bibell ddŵr a dwy set o offer anadlu i ddelio â’r tân. 

Mae archwiliad ar y cyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i achos y tân nawr ar y gweill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen