Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyhuddo perchennog gwesty yn Llandudno o beryglu diogelwch gwesteion

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio i sicrhau bod gwesty yn Llandudno yn bodloni’r ddeddfwriaeth ofynnol mewn perthynas â diogelwch tân.

 

Daeth i sylw swyddogion diogelwch tân busnes nad oedd yr Ambassador Hotel yn cydymffurfio â’r rheoliadau gofynnol.

 

Yn gynharach y mis hwn (16eg Rhagfyr ) plediodd Nigel Williams o’r Ambassador Hotel yn euog yn Llys Ynadon Llandudno  i ddau gyhuddiad dan Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân ) 2005 o fethu â darparu system larwm tân addas yn yr eiddo a methu â chynnal a chadw a gwasanaethu’r system larwm tân bresennol a’r system goleuadau argyfwng.

 

Derbyniodd ddirwyon a chostau yn ei erbyn o fwy nag £8,000. Dywedodd yr Ynad bod y rhain yn droseddau difrifol ac y dylai diogelwch gwesteion a staff fod yn hollbwysig.

 

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda busnesau i sicrhau lefel ddigonol o ddiogelwch tân trwy ei raglenni archwilio ac addysg.

 

Meddai’r Uwch Swyddog Diogelwch Tân Stuart Millington: “Pan fydd perchnogion busnesau yn peryglu eu gwesteion a’u staff ac yn methu, dro ar ôl tro, â gwella eu safonau diogelwch, ein dyletswydd ni yw gweithio i erlyn y rhai hynny sy’n methu ag amddiffyn eraill a sicrhau’r lefelau uchaf o ddiogelwch i’r cyhoedd.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen