Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ethol cadeirydd newydd i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Postiwyd

Cafodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, o Gyngor Sir Ddinbych, ei ailethol yn Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdod Tân ac Achub, a gynhaliwyd yn Siambr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gynharach heddiw (dydd Llun 15fed Mehefin).

Fe gychwynnodd y Cynghorydd Davies ar ei yrfa mewn llywodraeth leol 30 mlynedd yn ôl, ac y mae wedi gwasanaethu fel aelod o'r Awdurdod Tân ac Achub ddwywaith ers 1999.

Dyma oedd ganddo i'w ddweud ar gael ei ethol yn Gadeirydd yr Awdurdod am y 12 mis nesaf: "Rydw i wrth fy modd fy mod  i'n cael parhau yn y  rôl am flwyddyn arall. Rydym yn y broses o weithredu strategaeth a fydd yn sicrhau arbedion ariannol i'r Awdurdod - mae'n gyfnod heriol ac mae gennym benderfyniadau anodd o'm blaenau, ond rwyf yn falch o gael parhau gyda'r strategaeth hon fel y gallwn gyflawni'n gweledigaeth ar gyfer dyfodol y gwasanaeth tân ac achub yng Ngogledd Cymru.

Y Cynghorydd Peter Lewis MBE, o Gyngor Conwy a gafodd ei ethol yn is-gadeirydd.  

Fe ymunodd y Cynghorydd Lewis â'r Awdurdod Tân ac Achub yn 2012. Meddai: "Rydw i a'r Cadeirydd wedi cydweithio dros y flwyddyn ddiwethaf ac rwyf yn siwr y bydd hyn o fudd i'r Awdurdod wrth i ni wynebu'r heriau sydd o'm blaenau."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen