Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Y Ffenics yn tanio brwdfrydedd ieuenctid Wrecsam

Postiwyd

Cynhaliwyd cwrs Ffenics llwyddiannus arall yng Ngorsaf Dân y waun, Wrecsam Ddydd Gwener 12fed Mehefin.

Cymrodd 9 o blant rhwng 13-16 oed ran yn y cwrs sydd yn para wythnos. Ar ddiwedd yr wythnos cafwyd seremoni gyrhaeddiad lle cafodd y plant gyfle i arddangos eu sgiliau diffodd tanau newydd o flaen eu rhieni, cyfoedion ac aelodau staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Yn ystod y cwrs cafodd y plant flas o'r hyn sydd yn hanfodol i fod yn ddiffoddwr tân, sef gwaith tîm, dilyn gorchmynion, meddwl yn gyflyn, dewrder a'r gallu i ddysgu sgiliau newydd yn gyflym.

Roedd Gorsaf Dân y Waun yn falch o groesawu 9 disgybl o Ysgol Rhosnesni, Wrecsam, Ysgol Bryn Alun, Gwersyllt ac Ysgol Rhiwabon, Rhiwabon ar gyfer y gweithgareddau hyn.

Meddai'r Uwch Reolwr Diogelwch Tân Stuart Millington, a oedd yn bresennol ar y diwrnod diwethaf: "Mae hi bob amser yn fraint cael mynychu seremoni gyrhaeddiad tîm Ffenics, a chyflwyno tystysgrifau i'r rhai a gymrodd ran.

"Rydw i'n cael  boddhad mawr o wybod faint o gynnydd y maent wedi ei wneud yn ystod yr wythnos, a chlywed am eu datblygiad dros gyfnod mor fyr, ac y mae'n dyst i lwyddiant y prosiect effeithiol hwn.

"Rydym yn gobeithio y bydd y plant yma'n cofio'r hyn y maent wedi ei ddysgu dros yr wythnos ddiwethaf ac y byddant yn rhoi eu sgiliau newydd a'r hyder y maent wedi ei fagu ar waith o ddydd i ddydd er mwyn eu gwneud yn gryfach pobl."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen