Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hybu Wythnos Atal Boddi

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd i gadw'n ddiogel wrth i'r tywydd gynhesu, a bydd yn cefnogi Wythnos Atal Boddi rhwng 20-28 Mehefin 2015.

Mae pawb yn hoffi trochi mewn dwr oer yn ystod misoedd poeth yr haf, ond fe all cronfeydd dwr, llynnoedd, afonydd a dwr mewndirol beryglu eich bywyd chi a'ch anwyliaid.

Er bod y dwr yn edrych yn braf, yn enwedig ar ddiwrnod poeth, mae'n bosib bod peryglon na allwch chi mo'u gweld o dan y dyfroedd a all eich gwneud yn sâl, eich anafu ac - yn waeth byth - eich lladd.

Mae'r ymgyrch am eleni yn canolbwyntio ar Sioc Dwr Oer, rhywbeth sydd yn lladd nifer o bobl bob blwyddyn gan nad ydi nifer o bobl ifanc - hyd yn oed y rhai sydd yn gallu nofio'n dda- yn ymwybodol o'r effaith y gall hyn ei gael ar eu gallu i nofio mewn dwr agored.

Bu farw dau ddyn a chafodd dau arall eu cludo i'r ysbyty ar ôl mynd i drafferthion wth nofion mewn dwr oer iawn ger rhaeadr yn Llanberis yn gynharach fis yma.

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Hyd yn oed ar ddiwrnodau poeth dros fisoedd yr haf, mae'n annhebygol bod cyrff dwr mewndirol wedi cael cyfle i gynhesu. Mae sioc dwr oer yn creu ymateb corfforol ac fe all hyn ei gwneud hi'n anoddach i bobl nofio, a hyd yn oed eu lladd.

"Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden yn y dwr yn llawer iawn o hwyl, a does wnelo Wythnos Atal Boddi a Diogelwch Dwr ddim byd ag atal pobl rhag mwyhau'r gweithgareddau hyn. Y bwriad yw codi ymwybyddiaeth o'r peryglon posib ac annog pobl i gadw'n ddiogel."

Mae nofio mewn dyfroedd dieithr a mynd allan i ddwr agored yn beryglus iawn a gofynnaf i bawb gymryd pwyll arbennig yn ymyl dwr."

Yn drist iawn fe allai'r rhan fwyaf o farwolaethau ymysg pobl ifanc rhwng 16-30 yn 2013 ar draws y DU fod wedi cael eu hatal pe byddai camau wedi cael eu cymryd i atal y pump angheuol:

 

1.           Sioc dwr oer - fe all tymheredd dwr isel achosi i'ch coesau a'ch breichiau fynd yn ddiffrwyth a'ch lladd

2.            Wyddoch chi beth sydd o dan y dwr? Efallai bod peryglon yno i'ch trapio, llygredd ,ayb.

3.            Cerrynt neu gyflyrau dwr - yn cynnwys llifogydd, dyfnderoedd anhysbys, rhew, dwr garw,  trolifau.

4.            Yfed alcohol - peidiwch â nofio os ydych wedi bod yn yfed

5.            Hyfedredd nofio - peidiwch â chymryd yn ganiataol y byddwch yn gallu ymdopi gyda heriau nofio mewn dwr agored oherwydd eich bod yn gallu nofio mewn pwll nofio.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen