Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch yn dilyn llu o danau bwriadol

Postiwyd

Mae llu o danau bwriadol yn ardal Bangor yn achosi pryder i'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol.  

Maent yn gofyn i bobl feddwl am ganlyniadau cynnau tanau yn fwriadol yn dilyn y digwyddiadau hyn sydd wedi bod yn draul ar adnoddau.

 

Ers 4 Mehefin mae diffoddwyr tân edi cael eu galw i 10 o danau bwriadol yn ardal Bangor.

 

Cafodd criwiau o Fangor a Llanfairfechan eu galw i dy gwag ym Mhorth penrhyn, Talybont am 19.49 o'r gloch nos Fawrth 9fed Mehefin. Cafodd diffoddwyr tân hefyd eu galw i'r un lle ar 16 Mehefin ar ôl cael eu galw yno ar y 4ydd o Fehefin.

 

Cafodd diffoddwyr tân o Fangor hefyd eu galw i dân agored yn Ysgol y Garnedd, Ffordd Penrhos am 20.28 o'r gloch ar 20 Mehefin.

 

Meddai Kevin Jones, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol: "Mae'n siomedig bod cymaint o danau bwriadol wedi cael eu cynnau yn yr un ardal.

 

"Mae tanau bwriadol yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau oherwydd bod ein criwiau yn gorfod dychwelyd i'r un ardaloedd dro ar ôl tro i ddod â hwy dan reolaeth, sydd yn golygu oedi wrth anfon diffoddwyr tân i ddigwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol.

 

" Mae'n bryder y gallai'r tanau hyn ddatblygu i fod yn danau drifrifol iawn a allai beryglu bywydau ein diffoddwyr tân a'r cyhoedd.

 

"Rwyf felly'n erfyn ar i rieni gadw llygaid ar eu plant a phwysleisio'r neges bwysig bod tanau bwriadol yn peryglu bywydau.

 

"Efallai mai chi neu aelod o'ch teulu fydd yn galw arnom  ni am help ac mae'n bosib na fyddwm yn gallu eich cyrraedd chi mewn da bryd oherwydd ein bod allan yn delio gyda thanau bwriadol."

 

Mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i fynd i'r afael ag achosion o losgi bwriadol.

Cewch ddilyn ein hymgyrch i leihau tanau bwriadol yn y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #helpstopdeliberatefires ar trydar neu drwy fynd i'n gwefan. www.gwastan-gogcymru.org.uk

Os oes gennych chi wybodaeth am droseddau o'r fath galwch Crimestoppers yn ddienw ar  0800 555 111 neu 101.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen