Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymgyrch gan y tri gwasanaeth i leihau galwadau anaddas

Postiwyd

GYDA thymor gwyliau’r haf wedi cyrraedd mae’r tri gwasanaeth brys yn cyfuno eu hadnoddau mewn ymgais i leihau’r nifer o alwadau diangen ac amhriodol sy’n cael eu gwneud i’r Gyd Ganolfan Gyfathrebiadau yn Llanelwy. Mae rhai enghreifftiau o’r mathau amhriodol o alwadau a dderbyniwyd gan Heddlu Gogledd Cymru, y Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Gwasanaeth Ambiwlans yn cynnwys rhywun yn cwyno am beiriant golchi eu cymydog, cais am gymorth i gael pêl i lawr o ben to, cwyn am dacsi rhy hir yn cyrraedd, plentyn yn chwarae a ffôn, cwyn gan rywun bod eu meddyginiaeth yn anghywir a dyn eisiau i rywun ddiffodd y golau yn ei ystafell wely. Mae’r wybodaeth yn cael ei gwneud yn gyhoeddus wrth i’r tri gwasanaeth brys lansio ymgyrch i helpu i leihau’r nifer o alwadau diangen ac amhriodol a wneir i’r ganolfan alwadau yn Llanelwy a hefyd er mwyn hyrwyddo’r rhif 101 a’r defnydd priodol ohono. Yn draddodiadol yr haf yw un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn i’r gwasanaethau brys ac mae swyddogion yn gofyn i bobl ddefnyddio’r system 999 yn ddoeth er mwyn sicrhau nad ydynt yn methu gwir argyfwng. Y llynedd cafodd yr Heddlu gyfanswm o 105,930 o alwadau brys a difrys dros yr haf (o fis Mehefin i fis Medi) Mae Uwcharolygydd Alex Goss yn annog pobl i ofalu eu bod yn gwneud defnydd priodol o’r gwasanaeth 999 ac mai dim ond ar gyfer riportio materion plismona y maen nhw’n defnyddio’r llinell 101. Meddai: “Rydym yn nesáu at un o adegau prysuraf y flwyddyn i ni. Mae pob galwad ddiangen yr ydym yn ei derbyn yn lleihau’r amser sydd ar gael i ni i ymdrin â materion plismona dilys. “Mae ffonio 999 – y llinell i’w defnyddio pam mae gwir argyfwng – i ddweud eich bod yn flin bod peiriant golchi eich cymydog yn gwneud swn yn wastraff adnoddau llwyr a gallai rwystro galwad wirioneddol frys ble mae bywyd rhywun mewn perygl rhag dod drwodd.” Meddai Sandra Williams, Pennaeth Rheolaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae lleihau’r galw ar ein gwasanaethau yn golygu y gallwn ganolbwyntio ar roi gwell gwasanaeth i’r cyhoedd a sicrhau ein bod yn mynychu argyfyngau go iawn. “Er bod y broblem o alwadau diangen ac amhriodol yn cael effaith cymharol is ar y Gwasanaeth Tân ac Achub nag ar y gwasanaethau brys eraill, rydym yn gweithio ar y cyd â’r Heddlu a’r Gwasanaeth Ambiwlans i gynnal cysylltiadau ac i sicrhau bod y mater hwn yn cael sylw parhaus er mwyn i bethau wella. “Yn ychwanegol at gydweithio er mwyn lleihau galw ar y gwasanaethau brys ochr yn ochr â’n partneriaid yng Ngogledd Cymru, rydym hefyd yn cydweithio a’r ddau wasanaeth tân ac achub arall yng Nghymru. Gyda’n gilydd rydym wedi bod yn hyrwyddo’r strategaeth Her Galwadau Cymru Gyfan sydd wedi’i anelu at leihau’r nifer o gerbydau, adnoddau a staff sy’n mynychu digwyddiadau lle nad oedd unrhyw angen. “Gall atebwyr galwadau 999 ddefnyddio eu profiad a’u crebwyll i benderfynu os yw’r digwyddiad sy’n cael ei ddisgrifio yn un dilys ai peidio, yn un ble bydd ymateb llai yn ddigonol neu a ddylid cyfeirio’r mater at adran neu asiantaeth arall mwy priodol.” Meddai Sonia Thompson, Pennaeth Gweithrediadau’r Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar ran ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Yn anffodus rydym yn dal i gael llawer iawn o alwadau amhriodol sydd ddim angen ymateb gan y gwasanaeth ambiwlans. “Dyda’ ni ddim eisiau rhwystro neb rhag ffonio 999, ond am iddyn nhw feddwl ddwywaith cyn gwneud. Pan fydd pobl yn camddefnyddio’r gwasanaeth mae’n golygu bod ein hamser prin yn cael ei dynnu oddi wrth rhywun sydd wir angen ein help. “Ar adegau brig fel yr haf, mae posibilrwydd y gallai pob galwad sydd ddim yn hanfodol oedi ein hymateb i argyfwng difrifol. “Os ‘da chi’n sâl neu wedi dioddef anaf ac yn ansicr beth ddylech chi ei wneud, ffoniwch Galw Iechyd Cymru lle bydd rhywun ar gael 24 awr y dydd i gynnig cyngor a gwybodaeth. Os byddwch angen ambiwlans, gallan nhw drefnu hyn i chi. “Wrth i’r tywydd gynhesu gallwch fynd i wefan Galw Iechyd Cymru lle cewch wybodaeth am bethau fel pigiadau, llosg haul ac alergeddau. “Os oes gennych frathiadau, toriadau, anafiadau i’r cyhyrau ayyb ewch i’ch Uned M6an Anafiadau – does dim angen apwyntiad. “Gallwch hefyd lawrlwytho’r app ‘Choose Well’ yn eich iPhone, iPad neu ffôn android, sef eich canllaw swyddogol i ddewis y gwasanaeth GIG cywir yng Nghymru. “Os bydd rhagor o bobl yn dewis yn dda, mae’n golygu y bydd mwy o’n hambiwlansiau ar gael i ymateb i bobl sydd wirioneddol angen ein cymorth, er enghraifft rhywun sydd wedi cael trawiad ar y galon. “Peidiwch â ffonio 999 oni bai eich bod yn ddifrifol wael neu wedi dioddef anaf difrifol neu os yw eich bywyd mewn perygl.” Mae enghreifftiau eraill o alwadau amhriodol yn cynnwys galwadau amhriodol a wnaed i’r gwasanaethau brys yn cynnwys: cwyn ynghylch meddyg yn rhoi’r feddyginiaeth anghywir, cais am gymorth i symud nyth gwenyn meirch, dyn efo ddannodd a chwyn bod cwmni tacsis yn gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd nad oedd tacsis ar gael. “Mae ffonio 101 ynglyn a materion sydd ddim yn berthnasol i blismona, er enghraifft cwyno na chafodd eich bin ei wagio neu gi yn crwydro’r strydoedd hefyd yn wastraff ar adnoddau’r heddlu. Mae teclyn hunanwasanaeth ar gael ar wefan Heddlu Gogledd Cymru i gynorthwyo pobl sydd ddim angen gwasanaeth yr heddlu i drosglwyddo eu hymholiadau a’u galwadau i’n cydweithwyr yn yr awdurdod priodol. Ychwanegodd Uwcharolygydd Goss: “Fydd ffonio 999 i riportio pethau dydd i ddydd ddim yn gwella’r gwasanaeth i’r galwr. Mae gennym ni bwerau i erlyn pobl am gamddefnyddio’r system 999 ac mae unrhyw un sy’n camddefnyddio’r system dro ar ôl tro yn wynebu cael eu herlyn." Gall fod yn anodd barnu beth sydd neu sydd ddim yn argyfwng ond yn gyffredinol dylech ffonio 999 os: Oes yw bywyd rhywun mewn perygl neu os ydych yn gweld trosedd yn digwydd ar y pryd, neu yn credu fod y troseddwyr yn dal i fod yn y cyffiniau. Os ydych yn rhan o wrthdrawiad ffordd difrifol lle mae rhywun wedi dioddef anaf difrifol, neu os yw cerbydau eraill yn achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd Fel arall dylid gwneud galwadau i’r llinell ddifrys, 101 (mae galwadau i 101 o ffôn arferol a ffôn symudol yn costio 15c yr alwad dim ots faint o’r gloch y gwneir yr alwad na faint y bydd yn para). Nodiadau: Mae galwadau nad oeddynt yn rhai brys a gafodd y gwasanaeth ambiwlans dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys: - Dyn efo ddannodd (Cei Connah, Hydref 2014) - Dynes efo poen yn ei bol ar ôl bwyta 'kebab' drwg (Dinbych, Mai 2015) - Dynes oedd wedi cael ei brathu gan gath (Y Fflint, Ionawr 2015) - Dyn efo dolur wedi crawnio ar ei ben ôl, yn methu cerdded (Yr Wyddgrug, Mehefin 2013) - Dyn eisiau i rywun ddiffodd y golau yn ei lofft (Bangor, Mehefin 2013) - Dynes feddw eisiau lifft adref (Llanelwy, Ebrill 2014) - Dyn efo rhywbeth i fyny ei ben ôl (Bae Colwyn, Hydref 2013) - Dynes efo llosg haul ar ei thraed (Dinbych, Gorffennaf 2013) Cyfanswm y galwadau a dderbyniwyd gan Heddlu gogledd Cymru yn 2014, 2013, 2012 : 2014 76,945 galwad frys (999) 339,569 galwad ddifrys 16,273 o alwadau â’r galwr eisiau gwasanaeth Cymraeg 203,610 o ddigwyddiadau wedi’u cofnodi 2013 81,383 galwad frys (999) 367,412 galwad ddifrys 25, 423 o alwadau â’r galwr eisiau gwasanaeth Cymraeg 212,726 o ddigwyddiadau wedi’u cofnodi. 2012 87,712 galwad frys (999 433,447 galwad ddifrys 23,561 o alwadau â’r galwr eisiau gwasanaeth Cymraeg 225,000 o ddigwyddiadau wedi’u cofnodi

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen