Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwrthdrawiad traffig yn Nolgellau

Postiwyd

Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru o Ddolgellau, y Bermo a’r Bala eu galw i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger tŷ tafarn y Cross Foxes yn Nolgellau am 7:55 o’r gloch y bore yma.

 

Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys pedwar o deithwyr a bu’n rhaid i un ohonynt gael ei dorri allan o’r cerbyd.

 

Bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân gau’r ffordd oherwydd pryderon ynglŷn â diogelwch, gan gynghori’r cyhoedd i gadw draw.

 

Fe ddefnyddiodd y criwiau un bibell dro i ddiffodd tân mewn un o’r cerbydau.

 

Roedd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn bresennol. Llwyddwyd i ddod o hyd i’r holl deithwyr. Bu’n rhaid i un o’r teithwyr gael ei gludo i’r ysbyty gan yr ambiwlans awyr, a chafodd y tri theithiwr arall hefyd eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.

 

Mae’r criwiau tân wedi cwblhau eu gwaith ac maent wedi diogelu’r safle. Mae’r holl deithwyr bellach dan ofal y Gwasanaeth Ambiwlans.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen