Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhybuddio ynglŷn â thwyll posib

Postiwyd

 

 

Os gwelwch yn dda, byddwch yn wyliadwrus rhag twyll posib yn ymwneud â galwadau sy’n cael eu gwneud gan rywun sy’n honni eu bod yn gweithio gyda’r gwasanaeth tân ac achub ac yn gwerthu larymau mwg i drigolion Gogledd Cymru.


Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Rydym wedi cael gwybod gan nifer o bobl eu bod  wedi cael galwad gan unigolyn a oedd yn honni eu bod yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’u bod yn gwerthu larymau mwg.

 

“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch yn y cartref rhad ac am ddim ac fel rhan o’r archwiliadau hyn mae staff yn ymweld  â chartrefi a gosod larymau mwg newydd lle bo angen. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac nid ydym yn codi tâl. Mae ein staff yn gwisgo gwisg y Gwasanaeth ac maent yn cario cerdyn adnabod gyda hwy bob amser. 

 

“Hoffwn atgoffa pobl i fod yn wyliadwrus a chysylltu â’r adran Safonau Masnachu os ydynt yn cael galwad o’r fath”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen