Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu diogelwch canhwyllau yn dilyn tri o danau mewn wythnos yn ardal Wrecsam

Postiwyd

 

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa pobl ynglŷn â phwysigrwydd cymryd pwyll gyda fflamau noeth yn dilyn tri o danau yn ymwneud â chanhwyllau yn ardal Wrecsam mewn llai nag wythnos - yn drist iawn bu farw ci a chath yn ystod un o’r tanau hyn.

 

Galwyd criwiau o Wrecsam i’r eiddo ar Hawkstone Way, Rhosnesni am 17.22 o’r gloch nos Iau, 8Fed Rhagfyr. Roedd cannwyll wedi cael ei gadael yn llosgi ar gownter y gegin a seiniodd y larwm mwg rybudd.  Bu i gymydog alw 999 a rhoi gwybod i’r gwasanaeth tân ac achub am y tân. Fe achosodd y tân ddifrod mwg 100% yn y gegin.

 

Galwyd diffoddwyr tân o Wrecsam i Sycamore Road, Parc Caia am 20.33 o’r gloch, dydd Mawrth 13eg Rhagfyr yn dilyn adroddiadau o dân yn ymwneud â daliwr canhwyllau a oedd wedi gorboethi mewn ystafell wely.  Roedd y daliwr canhwyllau wedi ei symud o’r eiddo cyn i’r criwiau gyrraedd.

 

Galwyd criwiau o Wrecsam i Frân, Plas Madoc, Acrefair, Wrecsam am 14.23 o’r gloch ddoe, dydd Mercher 14eg Rhagfyr. Fe achosodd y tân ddifrod 100% i’r ystafell fyw, a difrod mwg i’r landin ar y llawr cyntaf.  Nid oedd y preswylwyr adref ar adeg y tân, ac yn drist iawn bu farw cath a chi. Achoswyd y tân gan gannwyll a oedd wedi cael ei gadael yn llosgi heb neb i gadw llygaid arni.

 

Meddai Paul Scott, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Wrecsam a Sir y Fflint, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym wedi ymateb i dri thân yn ymwneud â chanhwyllau yn ardal Wrecsam mewn llai nag wythnos - mae hyn yn amlygu pa mor hawdd ydy hi i danau gael eu hachosi. Yn drist iawn bu farw dau anifail, sydd yn dangos pa mor ddinistriol ydi tân.

 

“Mae nifer o bobl yn defnyddio canhwyllau yn y cartref, yn enwedig dros y gwyliau - ond cofiwch fod yr addurniadau hyn hefyd yn fflam agored ac felly mae’n rhaid cymryd pwyll arbennig wrth eu defnyddio. Rydym yn cydnabod bod pobl yn brysur cyn y Nadolig, ond mae’n bwysig eu bod yn cadw diogelwch tân mewn cof.

 

“Opsiwn arall ydy defnyddio canhwyllau te batri, sydd ar gael i’w prynu’n rhad iawn ac sydd yn defnyddio batri yn lle fflam agored. Maent yr un mor effeithiol o ran creu awyrgylch braf ac maent yn llawer mwy diogel na chanhwyllau arferol.  Hefyd, mae’n syniad da cadw tortsh a batris sbâr wrth law rhag ofn y cewch doriad pŵer."

 

Mae Paul yn cynghori trigolion sydd yn defnyddio canhwyllau i ddilyn y cyngor isod:

  • Gwnewch yn siŵr bod canhwyllau’n ddiogel mewn daliwr canhwyllau priodol, ar arwynebedd cadarn ac ymhell o ddefnyddiau a all fynd ar dân - megis llenni.

 

  • Peidiwch byth â gadael plant ac anifeiliaid anwes ar eu pen eu hunain os oes canhwyllau’n llosgi mewn ystafell

 

  • Peidiwch byth â gadael canhwyllau’n llosgi heb neb i gadw llygaid arnynt. Diffoddwch ganhwyllau os oes raid i chi adael yr ystafell, a gwnewch yn siŵr eu bod wedi eu diffodd yn llwyr cyn i chi fynd i’r gwely.

 

  • Cadwch y pwll cŵyr yn glir rhag darnau o wic, matsis a gweddillion eraill bob amser.

 

  • Llosgwch ganhwyllau mewn ystafell sydd wedi ei hawyru’n dda, ond dylech osgoi drafftiau, fentiau ac awelon - bydd hyn yn atal y gannwyll rhag llosgi’n gyflym neu’n anwastad, pardduo a diferu’n ormodol.

 

  • Trimiwch y wic 1/4 modfedd cyn ei llosgi. Fe all wiciau hir neu gam achosi i’r gannwyll losgi’n gam, diferu a fflachio.

 

  • Peidiwch â symud y gannwyll unwaith yr ydych wedi ei thanio.

 

  • Dilynwch argymhellion y gwneuthurwr ynglŷn ag amser llosgi a defnydd cywir

 

  • Rhowch ganhwyllau persawr mewn daliwr canhwyllau a all wrthsefyll gwres, gan eu bod wedi cael eu dylunio i droi’n hylif pan gânt eu llosgi, i  wneud y mwyaf o’r persawr.

 

  • Peidiwch â llosgi sawl cannwyll yn agos at ei gilydd rhag ofn i hyn achosi i’r fflam fflerio

 

  • Defnyddiwch ddiffoddwr canhwyllau neu lwy i ddiffodd canhwyllau. Mae hyn yn opsiwn mwy diogel na’u chwythu oherwydd y gall hyn achosi gwreichion.

 

Fe ychwanegodd:

 

“Hyd yn oed gyda’r rhagofalon hyn, mae’n hanfodol eich bod yn barod rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd. Fe all larwm mwg roi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999.  Cadwch eich hunain a’ch anwyliaid yn ddiogel drwy brofi’ch larwm mwg yn rheolaidd a thrwy gynllunio ac ymarfer cynllun dianc.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen