Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Cyhoeddi ail gyfnod ymgyrch recriwtio diffoddwyr tân rhan amser

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru heddiw yn lansio ail gyfnod ymgyrch recriwtio diffoddwyr tân System Dyletswyddau Rhan Amser i helpu i amddiffyn cymunedau ledled y rhanbarth.

Mae’r gwasanaeth tân ac achub eisiau recriwtio diffoddwyr tân rhan amser mewn nifer o ardaloedd ac rydym yn awyddus i glywed gan unigolion brwdfrydig sydd â diddordeb mewn gweithio fel diffoddwyr tân ar alwad yn eu gorsaf leol.

Esboniodd Ruth Simmons, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: “Mae diffoddwyr tân rhan amser yn darparu gwasanaeth tân a brys hanfodol yn ardal eu gorsaf dân hwy. Rydym yn chwilio am unigolion addas, yn enwedig rhai sydd ar gael yn ystod y dydd, sy’n medru teithio i’w gorsaf dân leol o fewn pum munud o gael eu galw allan. Mae’r ail gyfnod hwn o’n hymgyrch yn rhoi cyfle i’r sawl a fethodd y cyfnod cyntaf i wneud cais eto.

"Mae ein diffoddwyr tân rhan amser yn cynrychioli amrediad eang o bobl – gallant fod yn adeiladwyr, siopwyr, nyrsys, gweithwyr ffatri, rhieni yn y cartref neu bobl sy’n gweithio o’r cartref yn ystod oriau gwaith, ond gofynnwn hefyd bod diffoddwyr tân rhan amser ar gael i fynychu digwyddiadau argyfwng pan fo angen.

“Mae diffoddwyr tân yn staff sydd wedi eu hyfforddi’n dda, gyda sgiliau rhagorol, yn achub bywydau ac eiddo rhag tân. Mae diffoddwyr tân rhan amser yn cyfrannu gwybodaeth arbenigol mewn damweiniau ffordd, rheilffordd ac awyrennau, pan fydd cemegau yn arllwys, mewn llifogydd, tanau mewn coedwigoedd, gweundir ac ar fynyddoedd, a damweiniau amaethyddol.

"Rydym yn chwilio am bobl sy’n frwdfrydig, yn gorfforol ffit ac sy’n medru dangos synnwyr cyffredin, ymrwymiad ac ymroddiad – rydym yn awyddus i recriwtio rhai sy’n cynrychioli’r gymuned amrywiol rydym yn ei gwasanaethu.

“Rydym yn darparu timau clos, wedi eu hyfforddi’n rhagorol, yn gweithio gydag offer modern, technoleg uwch. Bydd y rhai a benodir hefyd yn gwneud y gwaith atal tân rydym yn ei wneud i rwystro tanau rhag digwydd yn ein cymuned.”

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i glywed gan unigolion gyda diddordeb ledled ardal Gogledd Cymru – er y bydd ail gyfnod yr ymgyrch yn canolbwyntio ar orsafoedd tân ynAberdyfi, Abersoch, Abermaw, Biwmares, Conwy, Corwen, y Fflint, Caergybi, Tref Ioan, Porthaethwy, Yr Wyddgrug, Nefyn, Rhosneigr, Llanelwy, Tywyn a Wrecsam.

I gael gwybod mwy, mae’r gwasanaeth tân ac achub yn cynnal cyfres o nosweithiau agored yn y gorsafoedd canlynol ar y dyddiadau isod;

21 Mehefin – Llanelwy, y Fflint, Wrecsam, Tref Ioan

22 Mehefin - Conwy

23 Mehefin - Aberdyfi, Tywyn

27 Mehefin - Corwen, yr Wyddgrug, Porthaethwy

28 Mehefin - Abersoch, Nefyn

29 Mehefin - Caergybi, Biwmares, Rhosneigr

30 Mehefin - Abermaw

 

Bydd y ­Dyddiau Gweithredu Cadarnhaol yn cael eu cynnal i annog ceisiadau gan grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli yn y Gwasanaeth, yn benodol: merched, lleiafrifoedd du ac ethnig a rhai o’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

15 Gorffennaf - Canolfan Hyfforddi’r Rhyl

19 Gorffennaf – Canolfan Hyfforddi Dolgellau

 

Rhaid cyfyngu ar y niferoedd felly mae angen trefnu ymlaen llaw – cysylltwch â Chelsey Hughes ar 01745 535278 / chelsey.hughes@nwales-fireservice.org.uk.

 

Os ydych chi angen mwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 01745 535250 neu HRDesk@nwales-fireservice.org.uk

Edrychwch ar ein fideo sy’n hyrwyddo’r ymgyrch recriwtio hon ar YouTube yma.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed o leiaf. Rhaid bod ganddynt safon dda o ffitrwydd corfforol a’r gallu i lwyddo mewn profion gallu. Yn ychwanegol at y ffïoedd misol a delir, gwneir taliadau hefyd am droi allan, mynychu digwyddiad a nosweithiau ymarfer.

Mae llawer o gyflogwyr yn ymwybodol o’r rôl hanfodol y mae staff gwasanaeth tân ac achub rhan amser yn ei chyflawni yn eu cymunedau lleol ac mae llawer yn rhyddhau staff i ymgymryd â dyletswyddau diffodd tân ac argyfyngau eraill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen