Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ffenics yn ysbrydoli pobl ifanc Parc Caia i gael dyfodol gwell

Postiwyd

Cymerodd pobl ifanc o Barc Caia, Wrecsam, ran yng nghwrs arloesol Ffenics y Gwasanaeth Tân ac Achub yr wythnos ddiwethaf.

Nod y prosiect yw delio â materion gyda phobl ifanc sy’n amrywio o hunan-barch isel a diffyg hyder i ymddygiad gwrth-gymdeithasol a/neu broblemau gyda thân megis cynnau tanau bwriadol a galwadau ffug.

 

Mae prosiect Ffenics yn herio agweddau presennol ac yn hyrwyddo meddwl yn annibynnol mewn pobl ifanc gan ddefnyddio gweithgareddau’r gwasanaeth tân i ddatblygu nodweddion personol megis gweithio fel tîm, archwilio eithafion corfforol a meddyliol a hyrwyddo ac addysgu pobl ifanc ynglŷn â rôl y gwasanaeth tân ac achub.

 

Yr wythnos ddiwethaf ar y cwrs Ffenics, roedd staff yn gweithio mewn partneriaeth â phrosiect STARS, Wrecsam.

 

Mae Prosiect STARS yn cefnogi pobl ifanc 16 i 25 oed i’w helpu i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r prosiect yn annog cyfranogwyr i ddyheu am gael dysgu mwy ac yn gweithio’n agos â darparwyr addysg a cholegau hyfforddi.  

 

Cynhaliwyd cyfarfod ym mis Ebrill 2016 gyda Caia Park Partnership Ltd a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i barhau gyda’r gwaith ymyrryd ar gyfer ardal Parc Caia – yn y cyfarfod cafwyd cais i redeg cwrs Ffenics ar gyfer prosiect STARS.  

 

Cafodd y cwrs gefnogaeth gan Heddlu Gogledd Cymru gyda chymorth gan ddau Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu sy’n gweithio ym Mharc Caia, a mentor o STARS.

 

 

Cynhaliwyd y cwrs yng Ngorsaf Dân y Waun.

 

Meddai Pam Roberts, Cydgysylltydd Ffenics: "Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn denu pobl ifanc, sy’n rhoi cyfle i ni geisio dylanwadu ar eu hymddygiad.

 

“Mae prosiect Ffenics yn cynnig profiad unigryw, i feithrin nodweddion rydym ni fel Gwasanaeth yn gweithio tuag atynt, megis parch, cyfathrebu ac ymddiriedaeth.

 

“Mae’r wythnos wedi cynnwys cymysgedd o ddysgu yn y dosbarth, lle’r oedd y bobl ifanc yn dysgu canlyniadau gweithredoedd, yna gweithgareddau yn y iard ymarfer lle rydym yn hybu gweithio gyda’n gilydd fel tîm, asesu risg a glynu at gyfarwyddiadau.

 

“Caiff sgiliau a ddysgwyd yn ystod yr wythnos eu harddangos mewn seremoni o gyflawniad, gyda Phrif Swyddog, aelodau’r Awdurdod Tân, rhieni, gwarcheidwaid a staff o’r ysgol yn bresennol.         

 

“Amcanion pellach y cwrs yw cynorthwyo’r bobl ifanc i gryfhau eu cymhelliad a theimlo’n fwy cadarnhaol, sydd yn eu tro yn eu gwneud yn well dinasyddion.

 

"Rydym yn gobeithio bod mynd ar y cwrs ysbrydoledig hwn wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl ifanc hyn, ac y byddant yn mynd â’r gwersi pwysig a ddysgwyd yn ôl gyda nhw a’u rhannu gyda theulu a ffrindiau.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen