Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Allech chi fod yn ddiffoddwr tân rhan amser? Diwrnodau Gweithredu Positif i ddenu ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal dau ddiwrnod Gweithredu Positif i annog pobl  o grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli i ymgeisio am yrfa fel diffoddwr tân System Dyletswydd Rhan Amser (RDS).

 

Y nod yw sicrhau gweithlu sydd yn adlewyrchu ein cymunedau amrywiol, a fydd yn ein helpu i ddarparu gwasanaeth tân ac achub o’r radd flaenaf i bobl y Gogledd.

 

Ar hyn o bryd mae merched, pobl o gefndiroedd ethnig du a lleiafrifol a phobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol wedi eu tangynrychioli. 

 

Mae’r gwasanaeth tân ac achub yn gobeithio recriwtio diffoddwyr tân RDS mewn sawl lleoliad ar draws y rhanbarth ac mae’n awyddus i glywed gan unigolion brwdfrydig sydd â diddordeb mewn gweithio fel diffoddwyr tân ar alwad yn eu gorsaf dân leol. 

 

Mae Llinos Gutierrez Jones, Rheolwr Adnoddau Dynol yn egluro: “Ar hyn o bryd mae’r nifer o ferched, pobl o gefndiroedd ethnig du a lleiafrifol a grwpiau LGBT sy’n rhan o’n gweithlu lawer iawn yn is na’r hyn yr hoffem ni ei weld mewn gwasanaeth tân ac achub modern.

 

 “Gyda hyn mewn golwg byddwn yn cynnal dau ddiwrnod gweithredu positif gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth ymysg grwpiau sydd wedi eu tangynrychioli yn ein gweithlu.

 

“Nod y diwrnod yw rhoi cyfle i bobl gael gwybod mwy am yrfa fel diffoddwr tân a’r broses ddethol.

 

“Nid fydd y diwrnodau gweithredu positif yn gwarantu swydd i unrhyw un o ryw neu hil benodol – byddwn yn cyflogi ar sail teilyngdod ac y mae disgwyl i bawb gyrraedd yr un safon.

 

“Os ydych chi’n perthyn i un o’r grwpiau hyn sydd wedi eu tangynrychioli   ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa fel diffoddwr tân rydym yn awyddus i glywed gennych chi.”

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn awyddus i glywed gan unigolion o bob cwr o Ogledd Cymru.

 

Bydd ail ran ein hymgyrch recriwtio yn canolbwyntio ar y gorsafoedd canlynol: Aberdyfi, Abersoch, Bermo, Biwmares, Caergybi, Conwy, Corwen, y Fflint, , Johnstown, Llanelwy, Nefyn, Porthaethwy, Rhosneigr, Tywyn,  Wrecsam a’r Wyddgrug ac rydym yn annog pawb i ymgeisio.

 

Cynhelir y diwrnodau Gweithredu Positif fel a ganlyn (0930-15.00 o’r gloch);

 

15 Gorffennaf 2016 – Canolfan hyfforddiant y Rhyl

19 Gorffennaf 2016 – Canolfan Hyfforddiant Dolgellau

Mae nifer gyfyngedig o lefydd ar gael felly mae’n rhaid neilltuo lle ymlaen llaw - cysylltwch â Chelsey Hughes ar 01745 535278 neu  chelsey.hughes@gwastan-gogcymru.org.uk

Am ragor o wybodaeth am yrfa fel diffoddwr tân RDS ewch i’n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk

Mae’r rhaid i ymgeiswyr fod o leiaf 18 mlwydd oed. Mae’n rhaid iddynt feddu ar safon dda o ffitrwydd corfforol a chwblhau cyfres o brofion gallu. Yn ogystal â ffi gadw fisol, ceir tâl ychwanegol am fynychu digwyddiadau, ymateb i alwadau a mynychu nosweithiau ymarfer.

Mae nifer o gyflogwyr yn ymwybodol o'r rôl hanfodol y mae personél y gwasanaeth tân ac achub yn ei chwarae yn eu cymunedau ac mae nifer yn fodlon rhyddhau staff i ddiffodd tanau ac ymateb i argyfyngau eraill.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen