Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dihangfa lwcus o dân i gwpl o Ynys Môn

Postiwyd

Cafodd dyn a dynes ddihangfa lwcus yn dilyn tân yn eu cartref yn Ynys Môn yn ystod oriau man y bore yma.

Fe anfonwyd dau beiriant o Amlwch i’r digwyddiad yn Brickpool, Amlwch am 04.10 o’r gloch ddydd Iau (19eg Ionawr). Roedd y tân dan reolaeth erbyn 05.20 o’r gloch.  

Cafodd dyn 75 mlwydd oed a dynes 65 mlwydd oed driniaeth oherwydd eu bod wedi anadlu mwg yn ystod y digwyddiad.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan ddadleithydd a oedd wedi gorboethi ar ôl cael ei adael ymlaen am gyfnod hir.

Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân ddau set o offer anadlu, pibell dro a chamera delweddu thermol i daclo’r tan a oedd wedi ei gyfyngu i’r ystafell haul. 

Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Roedd y trigolion yma’n lwcus iawn eu bod wedi llwyddo i fynd allan yn ddianaf – er eu bod wedi cael eu cludo i’r ysbyty am driniaeth.

“Doedd dim larymau mwg gweithredol yn yr eiddo – fe seiniodd y synhwyrydd carbon monocsid rybudd ond mae’n bwysig gosod y synhwyrydd cywir. Byddai synhwyrydd mwg wedi seinio rhybudd yn gynharach.

“Mae’n hanfodol eich bod yn barod rhag ofn i’r gwaethaf ddigwydd.  Fe all larwm mwg gweithredol roi cyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999.Cadwch eich hun a’ch hanwyliaid yn ddiogel drwy brofi’ch larwm mwg yn rheolaidd a chynllunio ac ymarfer eich cynllun dianc.

“Mae’r digwyddiad hefyd yn amlygu peryglon camddefnyddio cyfarpar trydan – dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwr; mae cyfarpar yn gallu gorboethi’n hawdd iawn oni bai eich bod yn cymryd gofal.” 

Dyma air i gall ar ddiogelwch trydan:

● Cadwch gyfarpar trydanol yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da a’u cynnal a’u cadw’n rheolaidd 

● Peidiwch byth â phrynu cyfarpar trydanol heb wybod a ydynt yn ddiogel i’w defnyddio

● Genwch yn siŵr bod Marc Diogelwch Prydeinig ar gyfarpar newydd

● Peidiwch byth â gadael cyfarpar trydanol yn y modd segur, oni bai eu bod wedi eu dylunio i gael eu gadael ymlaen (er enghraifft oergelloedd a rhewgelloedd).

● Peidiwch â gorlwytho socedi trydanol – defnyddiwch un plwg yn unig ymhob soced 

  • Defnyddiwch addasydd ffiws treuliedig ‘math bar’, yn hytrach nag addasydd bloc

Gwnewch yn siŵr nad ydy ampau’r holl blygiau yn yr addasydd yn uwch na 13 amp (neu 3000 wat o bŵer)

Peidiwch â phlygio addasydd i mewn i addasydd arall – defnyddiwch un addasydd yn unig ymhob soced  

Gwiriwch lidiau trydanol rhag ofn eu bod wedi gwisgo neu dreulio neu rhag ofn bod nam ar y gwifrau.

● Gwnewch yn siŵr bod systemau trydanol yn cael eu gwirio gan drydanwr cymwys a chofrestredig o leiaf unwaith bob 10 mlynedd

● Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio Dyfais Cerrynt Gweddilliol  gydag offer garddio i’ch amddiffyn rhag sioc drydanol  

 

Am gyngor pellach ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen