Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Apêl i adrodd am bobl sydd yn cynnau tanau yn fwriadol yn dilyn tanau ar noson tân gwyllt

Postiwyd

Mae swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar i’r gymuned gefnogi eu gwaith ac adrodd am bobl sydd yn cynnau tanau yn fwriadol wedi i griwiau gael eu galw at naw o danau bwriadol yn ystod cyfnod o chwech awr neithiwr (5ed Tachwedd).

Digwyddodd saith o’r rhain yn ardal Wrecsam, un yng Nghaernarfon ac un yn Garden City.

Roedd un yn ymwneud â thân mewn ffermdy gwag yn yr Orsedd, ac roedd  diffoddwyr tân yno dros nos ac yn ystod y bore.

Mae swyddogion hefyd yn condemnio’r  ymddygiad gwrthgymdeithasol gan griw o bobl ifanc yn ardal Wrecsam a wnaeth ymddwyn yn fygythiol tuag at ddiffoddwyr tân a oedd yn mynd at ddigwyddiadau – wrth ymateb i adroddiadau o dân yn ardal Southsea, cafodd diffoddwyr tân eu difrïo a’u bygwth gyda thân gwyllt.

Meddai Tim Owen, Rheolwr Lleihau Llosgi Bwriadol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Yn anffodus mae’r grŵp yma’n cynrychioli canran fechan iawn o bobl – rydym wedi cael cefnogaeth ragorol i’r gwaith yr ydym ni’n ei wneud gan ein cymunedau a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu a chefnogi’n hymgyrch Bydd yn Gall ar Noson Guto (BANG) i fynd i’r afael ag achosion o danau bwriadol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y tymor tân gwyllt a Chalan Gaeaf.

“Fodd bynnag, mae’r math yma o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gwbl annerbyniol - ni fyddwn yn goddef iaith ddifrïol neu ymosodiadau tuag at ein staff. Mae ein diffoddwyr tân yn gweithio i amddiffyn ein cymunedau a ni ddylent orfod dioddef y math yma ymddygiad wrth wneud eu gwaith. 

“Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar ein hadnoddau tân ac achub – wrth i griwiau ddelio gyda digwyddiadau fel hyn, efallai bod gwir angen ein hadnoddau mewn digwyddiadau lle mae bywydau yn y fantol rywle arall yn y sir. Mae cynnau tanau yn fwriadol yn drosedd ddifrifol ac ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru byddwn yn erlyn drwgweithredwyr.”

Fe ychwanegodd yr Arolygydd Gwledig ar gyfer Wrecsam, Steve Owens; “Fe aeth y cyfnod hyd at noson tân gwyllt yn dda iawn gyda dim ond llond llaw o adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Mae hyn yn bennaf oherwydd cydweithrediad y gymuned a’r cydweithio rhwng nifer o asiantaethau amrywiol.

“Yn anffodus penderfynodd criw bach  o bobl ifanc achosi difrod a galw anghymesur ar y gwasanaethau brys, sydd yn annerbyniol. Rydym wedi cael enwau’r rhai sydd dan amheuaeth ac rydym yn gweithio gydag asiantaethau ac adran dai’r cyngor i ddod o hyd i’r rhai sy’n gyfrifol a chymryd camau priodol.”

Fe ddylai unrhyw un sydd gan wybodaeth yn ymwneud â thanau bwriadol gysylltu gyda swyddogion yn Heddlu Gogledd Cymru. Fel arall galwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555111

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen