Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân yng Nghaernarfon

Postiwyd

 

Mae'r gwasanaethau brys mewn tân yng Nghaernarfon.

 

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw at dân mewn cyfeiriad ar Stryd y Llyn am 08.49 o'r gloch fore heddiw (Dydd Llun 20fed Awst).

 

Cafodd chwe injan dân eu hanfon at y digwyddiad, ac mae'r diffoddwyr tân wedi defnyddio pedwar set o offer anadlu a dwy olwyn pibell dân i ddelio â'r tân.

 

Mae pobl yn y siopau gerllaw a thrigolion yn y fflatiau uwchben wedi gadael yn ddiogel.

 

Mae'r diffoddwyr wrthi'n huddo'r tân a byddan nhw'n aros yno am gryn amser.

 

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen