Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Wythnos Diogelwch Drysau Tân

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cefnogi Wythnos Diogelwch Drysau Tân yr wythnos hon (24ain-30ain Medi 2018).

 

Mae’r tîm y tu ôl i’r Wythnos yn gobeithio addysgu pobl ynglŷn â’r rôl hanfodol y mae drysau tân yn eu chwarae wrth atal lledaenid mwg a thân, a chadw preswylwyr yn ddiogel.

 

Mae Wythnos Diogelwch Drysau Tân yn cael ei chynnal am y chweched tro eleni a nod yr ymgyrch y tro hwn – Gwiriad Pum Cam - cau’r drws ar dân a mwg - ydi tynnu sylw at bwysigrwydd gosod drysau tân yn gywir a sicrhau eu bod yn ddrysau ardystiedig yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth am beryglon anadlu mwg a’r rôl y gall drysau tân sydd wedi e gosod yn iawn ei chwarae o ran atal lledaeniad tân a mwg.

 

Meddai Paul Scott, Pennaeth Diogelwch Tân i Fusnesau ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:

“Mae drysau tân sydd wedi eu gosod a’u cynnal a’u cadw’n iawn mewn adeiladau masnachol, cyhoeddus a thai amlfeddiannaeth yn amhrisiadwy o ran helpu i amddiffyn bywydau ac eiddo trwy gyfyngu tanau.

 

“Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog busnesau a landlordiaid o bob cwr o’r rhanbarth yn gryf i sicrhau bod drysau tân mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn.”  

 

Am ragor o wybodaeth ewch i www.firedoorsafetyweek.co.uk.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen