Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio’r ymgyrch ‘Dweud Nid Difaru’ yn Llandudno

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn lansio ymgyrch newydd yn Llandudno heddiw sydd yn erfyn ar drigolion i helpu i adnabod pobl yn y gymuned sydd mewn mwy o berygl o ddioddef tân yn y cartref.

Mae Kevin Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn egluro:

“Yn ogystal ag ymateb i danau, rydym hefyd yn gweithio i atal tanau rhag digwydd yn y lle cyntaf – ac rydym angen help trigolion lleol i gyflawni’r gwaith yma.

“Rydym ni’n gofyn ar i bobl Llandudno gefnogi’r ymgyrch ‘Dweud nid Difaru’.

“Rydym ni’n llwyr ymwybodol bod aelodau’r gymuned sydd mewn mwy o berygl o ddioddef tân hefyd yn bobl fregus iawn, un ai oherwydd y ffordd y maent yn dewis byw eu bywyd neu oherwydd eu hamodau byw.

“Yn aml iawn mae pobl, yn anffodus, yn anwybyddu arwyddion damwain sydd yn siŵr o ddigwydd.

“Felly rydym ni eisiau i bobl gysylltu gyda ni os ydynt yn adnabod rhywun sydd mewn perygl fel y gallwn ni gymryd camau i helpu i atal tân rhag digwydd yn y gobaith o achub bywydau.

“Mae’r arwyddion y dylai pobl fod yn wyliadwrus ohonynt yn cynnwys, er enghraifft, ysmygu yn y gwely, anghofio am fwyd sydd yn coginio, celcio, rhywun sydd yn dod adref yn aml ar ôl bod yn yfed a cheisio coginio. Mae’r rhain i gyd yn cynyddu’r perygl o dân.

“Mae ein ple yn syml; peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion – os ydych chi’n credu bod rhywun mewn perygl yna codwch y ffôn a rhowch wybod i ni. Bydd yr holl wybodaeth yn cael ei drin yn gyfrinachol.

“Peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr – peidiwch a gadael i rywun yr ydych chi’n ei adnabod fod y person nesaf i farw mewn tân. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn achub bywyd.”

 

Gallwch gysylltu gyda Kevin a’i dîm ar 01745 352777.

Mae modd dilyn yr ymgyrch ar Facebook a Twitter yn ogystal – cadwch lygaid am #DweudNidDifaru.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen