Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybuddio am beryglon gwefrwyr ffonau yn dilyn tân yn Llangefni

Postiwyd

Mae Swyddogion Tân yn rhybuddion trigolion ynghylch peryglon tanau trydanol yn dilyn tân yn gysylltiedig â gwefrwr ffôn nos Wener ddiwethaf. Cafodd dau breswylydd driniaeth yn yr ysbyty am effeithiau anadlu mwg.

Galwyd diffoddwyr tân o Langefni, Porthaethwy a Bangor at dân mewn ystafell wely ym Mhencraig, Llangefni am 20.37 o’r gloch Nos Wener, Mai 3ydd. Achoswyd y tân gan wefrwr ffôn a oedd wedi gorboethi. Cafodd pedwar preswylydd driniaeth ragofalol yn y fan a’r lle a chludwyd dau breswylydd i’r ysbyty i dderbyn triniaeth am effeithiau anadlu mwg.

Meddai Gwyn Jones, Rheolwr Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Mae’r digwyddiadau yma’n tynnu sylw at berygl tanau trydanol – gallant ddigwydd unrhyw bryd, yn unrhyw le.

“Mae gwefrwyr ffôn yn mynd yn boeth iawn - peidiwch byth â’u gadael yn gwefru neu heb ben i gadw llygaid  arnynt am gyfnod maith a gwnewch yn siŵr fod y plwg wedi diffodd hyd yn oed os nad ydi o wedi ei gysylltu i’ch ffôn neu eitem drydanol.

“Peidiwch byth â chyfnewid gwefrwyr neu ddefnyddio gwefrwyr ffug -  dylech ddefnyddio’r gwefrwr a ddaeth gyda’r ffôn.

“Dilynwch gyfarwyddiadau a chanllawiau’r gwneuthurwyr bob amser wrth ddefnyddio eitemau trydanol, a diffoddwch nhw a thynnu’r plwg allan cyn i chi fynd i’r gwely.

“Rydym yn eich cynghori i fod mor barod â phosibl rhag ofn y bydd tân, a hynny drwy wneud yn siŵr fod gennych larymau mwg gweithredol yn eich cartref a bod gennych lwybrau dianc clir er mwyn i chi a’ch teulu allu mynd allan o’ch cartref mor gyflym â phosibl.

"Dyma rai camau syml i’w cymryd er mwyn ceisio atal tân trydanol yn eich cartref:

 

  • PEIDIWCH â gorlwytho socedi
  • GWIRIWCH a oes gwifrau wedi gwisgo neu dreulio
  • TYNNWCH blwg yr eitemau allan os nad ydych yn eu defnyddio
  • CADWCH yr eitemau’n lân ac mewn cyflwr da
  • DADWEINDIWCH y ceblau ymestyn cyn eu defnyddio.

 

“Rhowch gynnig ar ein cyfrifiannell ‘ampiau’ ar ein gwefan a’n tudalen facebook – ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk – mae’n dweud wrthych os ydych yn gorlwytho eich socedi ac mae’n eich helpu i aros yn ddiogel."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen