Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Lansio peilot Hyrwyddwyr Cymunedol Gwirfoddol

Postiwyd

Mae cynllun peilot newydd ar waith yn Sir Ddinbych i dargedu pobl sy’n teimlo’n unig ac ynysig a gweithio gydag unigolion bregus yn y gymuned sydd yn galw’r gwasanaethau brys yn aml.

Mae’r cynllun Hyrwyddwyr Cymunedol Gwirfoddol yn rhan o bartneriaeth waith rhwng y tri Gwasanaeth Brys ac fel rhan o’r cynllun bydd unigolion o grwpiau gwirfoddol cydnabyddedig yn cynorthwyo’r gwasanaethau brys unigol trwy gyfathrebu negeseuon hanfodol, gan helpu i ddiogelu trigolion yng ngogledd Cymru.

Yn ystod un cyfnod o dri mis yn 2018,derbyniodd y gwasanaeth ambiwlans dros 1,000 o alwadau brys gan ddim ond 30 unigolyn. Roedd y mwyafrif o’r rhain o ganlyniad i unigrwydd ac nid oedd angen ymateb meddygol arnynt.

Mae unigrwydd yn fater pwysig yng Nghymru, ac yn ôl pob tebyg mae 17% o’r boblogaeth, neu 440,000 o bobl, yn teimlo’n unig. Fe all unigrwydd a theimlo’n ynysig o gymdeithas arwain at broblemau corfforol a seicolegol gan gynnwys marwolaeth gynamserol, risg uwch o glefyd y galon a strôc, iselder a hunanladdiad.

Yn ystod y peilot cychwynnol hwn yn Sir Ddinbych, bydd Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned Gwasnaethau Ambiwlans Cymru a Swyddogion Gwirfoddol Heddlu Gogledd Cymru yn gweithredu fel hyrwyddwyr, gan weithio gyda galwyr rheolaidd i gynnig sicrwydd a gwneud yn siŵr bod trigolion mor ddiogel â phosibl yn y cartref. Mae’r peilot wedi bod ar waith ers mis.

Yn ystod ymweliad ymgysylltu, bydd yr Hyrwyddwyr Cymunedol Gwirfoddol yn cymryd amser i siarad gyda’r unigolion hyn mewn ymgais i atal galwadau 999 yn y dyfodol. Y nod ydi gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel trwy gynnal archwiliad diogel ac iach, archwiliad diogelwch cartref ac asesu risg yr unigolyn o gael codwm yn y cartref. Fe all yr hyrwyddwyr hefyd ddefnyddio’u hamser i gofnodi gwybodaeth ddefnyddiol drwy ddefnyddio’r Protocol Herbert rhag ofn i’r unigolyn bregus fynd ar goll ryw bryd yn y dyfodol. Byddant hefyd yn treulio amser yn dod i ddeall anghenion yr unigolyn a’u cyfeirio at wasanaethau, grwpiau neu glybiau yn yr ardal leol.

Meddai Jason Williams, Rheolwyr Ymatebwyr Cyntaf Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Fe all unigrwydd effeithio’n fawr ar unrhyw un ac mae’n broblem gynyddol yn ein cymdeithas. Fodd bynnag, trwy weithio gyda’n partneriaid yn y gwasanaethau brys, fe allwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol a helpu’r rhai sydd fwyaf ein hangen trwy gyfuno’n harbenigedd a’n profiad a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i’r afael â’r broblem. Rydym ni’n gobeithio gweld y cynllun hwn yn dwyn ffrwyth ac yn edrych ymlaen at glywed yr adborth gan y bobl hynny sydd wedi elwa ohono.”

Meddai Mark Owen, Prif Swyddog Heddlu Gwirfoddol o Heddlu Gogledd Cymru : “Bydd y fenter hon nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth positif iawn yn ein cymunedau ond mae hefyd yn dystiolaeth ragorol o wir gryfder y bartneriaeth sydd yn bodoli rhwng y tri gwasanaeth brys yma yng ngogledd Cymru. Ymgais wirioneddol Un Tîm i helpu ein cymunedau.”

Meddai Kevin Roberts, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym ni’n falch o gael cydweithio gyda’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys ar y peilot arloesol hwn, i gynnig cefnogaeth a sicrwydd i’n trigolion yn ogystal â mynd i’r afael â’r broblem o unigrwydd a theimlo’n ynysig.

“Trwy weithio mewn partneriaeth gallwn helpu i amddiffyn rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymunedau, a gwella ansawdd eu bywydau ar yr un pryd.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen