Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Diffoddwyr tân yn atgoffa ffermwyr i ‘Alw cyn Llosgi!’

Postiwyd

Gan fod y tymor llosgi grug a glaswellt wedi cychwyn ar y 1af o’r mis yma, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog ffermwyr a thirfeddianwyr o bob cwr o’r rhanbarth i gofio’r neges ‘Ffoniwch ni cyn llosgi!”.

 

Bydd nifer o ffermwyr nawr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir – ac mae diffoddwyr tân yn amlygu pwysigrwydd dilyn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt a rhoi gwybod i’r gwasanaeth tân ac achub cyn llosgi dan reolaeth.

 

Mae'r Cod Llosgi Grug a Glaswellt yn dynodi mai dim ond rhwng 1af Hydref a 31ain Mawrth y caniateir llosgi ar uwchdiroedd a  rhwng 1af Tachwedd a 15fed Mawrth ymhobman arall. 

 

Fel rhan o’r ymgyrch flynyddol hon, bydd diffoddwyr tân yn ymweld â marchnadoedd da byw ledled y rhanbarth i wneud yn siŵr bod tirfeddianwyr yn ystyried rhagofalon tân sylfaenol  yn ogystal â chysylltu cyn cynnau tân.

 

Bydd staff hefyd yn ymweld â Ffair Aeaf Cymru ym mis Tachwedd.

 

Meddai Justin Evans, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:  

 

"Mae ein neges i dirfeddianwyr a ffermwyr yn un syml – peidiwch â pheryglu bywydau, byddwch yn gyfrifol wrth losgi dan realaeth.

 

"Fe all tân ledaenu’n gyflym ac mae’n anrhagweladwy. Pob blwyddyn yn ystod y tymor llosgi rydym yn cael ein galw i nifer uchel o alwadau diangen a thanau sydd wedi lledaenu, ac o ganlyniad mae tir ac eiddo’n cael ei ddinistrio, yn ogystal ag atal adnoddau rhag mynd at ddigwyddiadau mwy difrifol.  

 

"Rydym felly’n annog tirfeddianwyr i roi gwybod i ni cyn llosgi drwy ffonio’r ystafell reoli ar 01931 522006 i helpu i atal galwadau diangen ac anfon criwiau tân allan yn ddiangen.

   

 

“Rydym hefyd yn gofyn i dirfeddianwyr fod yn gyfrifol wrth losgi dan reolaeth – ceir cyngor ar ein gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk ar sut i osgoi’r risgiau.

 

“Mae’n gyfrifoldeb ar bobo un ohonom i amddiffyn bywyd gwyllt – os bydd ardaloedd nythu naturiol yn cael eu dinistrio y tu allan i’r tymor llosgi byddwch yn torri’r gyfraith heb sôn am achosi dirfod sylweddol i ecoleg ein tirwedd.

 

“Bu i ffermwyr ymateb yn bositif i’r ymgyrch y llynedd – hoffwn ddiolch iddynt a gofyn iddynt barhau i fod yn gyfrifol.

 

“Yn anffodus, rydym yn gweld cynnydd mewn tanau bwriadol yn aml iawn yr adeg yma o’r flwyddyn, felly hoffwn fanteisio ar y cyfle i atgoffa pobl ei bod hi’n drosedd cynnau tanau’n fwriadol. Rydym yn gweithio gyda’r heddlu i fynd i’r afael ag achosion o losgi bwriadol ac rydym yn annog unrhyw un sydd gan wybodaeth i ffonio Crimestoppers neu 101.”

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen