Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu diogelwch trydanol wedi i drigolion gael dihangfa lwcus wedi i’w peiriant sychu dillad fynd ar dân yn eu cartref yn Llandudno

Postiwyd

Mae swyddogion yn amlygu pwysigrwydd defnyddio nwyddau gwyn yn ddiogel wedi i dri o bobl gael dihangfa lwcus ar ôl i beiriant sychu dillad fynd ar dân yn eu cartref yn Llandudno'r prynhawn yma.

Daw’r rhybudd yng nghanol wythnos genedlaethol Diogelwch Trydanol, sydd yn ceisio helpu i wneud yn siŵr bod trigolion yn cadw’n ddiogel yn y cartref.

Cafodd criwiau o Landudno a Bae Colwyn eu galw i’r eiddo yn Hafod Road West, Bae Penrhyn, Llandudno am 14.01 o’r gloch heddiw, dydd Mawrth Tachwedd 26ain.

Roedd larwm mwg wedi rhybuddio’r trigolion a llwyddasant i ffonio 999 a dianc yn ddiogel ar ôl cael cyngor gan staff yr ystafell reoli.

Credir bod y tân wedi ei achosi gan beiriant sychu dillad a oedd wedi gorboethi.

Mae Steve Roberts, Rheolwr Ardal o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn egluro:

“Mae’r digwyddiad yma unwaith eto’n amlygu pwysigrwydd larymau mwg gweithredol a rybuddiodd y preswylwyr o dân yn eu cartref.

“Cychwynnodd y tân mewn peiriant sychu dillad a oedd yn cael ei gadw yn y cwpwrdd o dan y grisiau. Os ydych chi’n defnyddio peiriant sychu dillad, mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr ei fod wedi ei awyru’n dda - peidiwch â gosod dim byd ar ben neu o amgylch y peiriant.

“Dyma ragor o gyngor pwysig ar ddefnyddio nwyddau gwyn yn ddiogel:
• Peidiwch â gorlwytho socedi â phlygiau – mae watedd uchel peiriant sychu dillad yn golygu bod arno angen ei soced 13 amp ei hun. Cadwch lygad am unrhyw farciau llosgi, ac archwiliwch unrhyw wifrau trydanol sy'n weladwy.
• Peidiwch â gadael peiriannau heb neb yn cadw golwg arnynt – peidiwch â rhoi dillad i sychu yn y peiriant cyn gadael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys motorau pwerus â rhannau sy'n symud yn gyflym, ac mae'r rhain yn mynd yn boeth iawn.
• Dylech bob amser lanhau'r hidlwr ar ôl defnyddio eich peiriant sychu dillad.
• Gofalwch fod eich peiriant sychu dillad wedi'i awyru'n dda, a sicrhewch nad oes yna unrhyw grychau yn y bibell aer, ac nad yw hi wedi blocio nac wedi cael ei gwasgu mewn unrhyw ffordd.
• Dylech bob amser adael i bob rhaglen sychu, gan gynnwys y 'gylchred oeri', orffen yn llwyr cyn gwagio'r peiriant. Os byddwch yn stopio'r peiriant yng nghanol rhaglen, bydd y dillad yn dal i fod yn boeth.
• Peidiwch ag anwybyddu'r arwyddion rhybuddio - os byddwch yn gallu arogleuo llosgi neu os bydd y dillad yn teimlo'n boethach ar ddiwedd y gylchred, peidiwch â defnyddio'ch peiriant a threfnwch iddo gael ei archwilio gan weithiwr proffesiynol.


“I helpu i gadw’ch hun a’ch teulu’n ddiogel mewn achos o dân gwnewch yn siŵr bod gennych chi larymau mwg gweithredol yn eich cartref a phrofwch hwy’n rheolaidd.

“ I gael gwybod mwy am ddiogelwch yn y cartref ewch i www.gwastan-gogcymru.org,uk ac i gael gwybod mwy am ddiogelwch trydanol ewch i www.electricalsafetyfirst.org.uk.

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen