Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Atgoffa pobl i osod larymau mwg gweithredol yn dilyn tân yn Rhuthun

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa trigolion i osod larymau mwg gweithredol wedi i ddau o bobl gael eu hachub o dân, mewn tŷ yn Rhuthun.

Cafodd diffoddwyr tân eu galw yn dilyn adroddiadau bod larwm mwg yn seinio mewn cyfeiriad yn Railway Terrace, Rhuthun am 9.30 o’r gloch nos Wener Tachwedd 22.

Anfonwyd dwy injan dân ac fe achubodd y diffoddwyr tân ddau o bobl. Cawsant eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans yn dioddef o effeithiau anadlu mwg. Maent wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty erbyn hyn.

Deallir bod bwyd wedi cael ei adael yn coginio yn y gegin heb neb i gadw llygaid arno.

Meddai’r Rheolwr Gorsaf, Mike Edwards; "Mae’r digwyddiad yn dangos pwysigrwydd gosod larymau mwg gweithredol ac yn ein hatgoffa i beidio byth â gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno.”

Am wybodaeth a chyngor ar ddiogelwch tân yn y cartref a gosod larymau mwg, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen