Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd diogelwch coginio ac apêl i Fynd allan ac Aros Allan! yn dilyn tân yng Nghaernarfon

Postiwyd

Mae Swyddog Tân yn rhybuddio am beryglon gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno a phwysigrwydd gadael yr eiddo a ffonio 999 yn syth ar ôl darganfod tân wedi i ddyn gael ei gludo i’r ysbyty ar ôl anadlu mwg.

Anfonwyd dau griw o Gaernarfon i fflat yn Llys yr Eifl, Caernarfon am 20.09 o’r gloch neithiwr (Nos Iau 12fed Rhagfyr) i daclo tân a oedd wedi cael ei achosi gan fwyd a oedd wedi cael ei adael yn coginio.
Ceisiodd y preswylydd ddiffodd y tân ei hun cyn ffonio 999, a chafodd ei gludo i’r ysbyty i dderbyn triniaeth am ei fod wedi anadlu mwg.

Meddai Paul Jenkinson, Pennaeth Ymateb ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru:
“Dro ar ôl tro rydym ni’n cael ein galw at danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin – mae mor hawdd anghofio am fwyd sy’n coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, ddim yn canolbwyntio neu os ydych wedi bod yn yfed, ac fe all y canlyniadau fod yn drychinebus.

“Mae ein neges yn glir - peidiwch byth â throi eich cefn ar fwyd sydd yn coginio, hyd yn oed am funud.
“Os cewch dân yn eich cartref, ein cyngor ydi ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999. Peidiwch byth â cheisio taclo’r tân eich hun – yn anffodus ceisiodd y preswylydd yma daclo’r tân ei hun ac o ganlyniad cafodd ei gludo i’r ysbyty.

"Mae’n allweddol cael rhybudd cynnar o dân – fe all rhybudd cynnar gan larwm mwg roi digon o gyfle i chi a’ch teulu fynd allan yn ddianaf. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cynnal a chadw’ch larwm mwg a’i brofi unwaith yr wythnos.

Dyma air i gall ar sut i gadw’n ddiogel yn y gegin:

• Os oes rhaid i chi adael y gegin, tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
• Peidiwch â defnyddio matsis a thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel
• Gwnewch yn siŵr nad ydy coesau’ch sosbenni yn mynd dros ymyl y popty
• Cadwch eich popty, pentan a gridyll yn lân – gall saim a braster sydd wedi casglu fynd ar dân yn hawdd iawn
• Peidiwch â hongian dim byd uwch ben eich popty
• Cymrwch ofal os ydych chi’n gwisgo dillad llac - gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
• Ar ôl i chi orffen coginio gwnewch yn siŵr bod popeth wedi ei ddiffodd
• Diffoddwch gyfarpar trydanol pan nad ydych yn eu defnyddio
• Peidiwch byth â defnyddio sosbenni sglodion – defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli’r gwres
• Gosodwch larymau mwg yn eich cartref – maent ar gael yn rhad ac am ddim a gallant achub eich bywyd.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen