Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dyn yn marw mewn tân mewn eiddo ym Mae Colwyn

Postiwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ym Mae Colwyn.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw at dân mewn eiddo yn Greenfield Road, Bae Colwyn am 10.17 o’r gloch y bore yma (Dydd Mawrth 7fed Ionawr).

Anfonwyd criwiau o Fae Colwyn, Abergele a Llandudno at y digwyddiad. Fe ddefnyddiodd y criwiau offer anadlu a phibellau tro i ddiffodd y tân.

Daeth y diffoddwyr tân o hyd i gorff dyn 52 oed yn yr eiddo.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen