Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rhybudd ebost gwe-rwydo

Postiwyd

Mae darpar recriwt i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) wedi tynnu sylw’r Gwasanaeth at ebost ‘gwe-rwydo’ y maent wedi ei dderbyn, sydd yn honni ei fod wedi ei anfon o Bencadlys GTAGC.

 

Mae gwe-rwydo yn fath o sgiâm ar-lein lle mae troseddwyr yn anfon e-byst sydd yn ymddangos fel petaent wedi dod gan sefydliadau dilys ac sydd yn gofyn i chi anfon manylion sensitif.  Mae hyn fel arfer drwy gyfrwng linc a fydd yn mynd â chi i wefan y sefydliad fel y gallwch nodi’ch manylion - ond gwefan ffug fydd hon a bydd eich gwybodaeth yn cael ei anfon yn syth at y troseddwyr.

 

‘Data required’ ydi teitl yr ebost dan sylw (ebost uniaith Saesneg) ac mae wedi ei anfon o’r cyfeiriad ebost  ‘dpo@nwlaes_fireservice.org.uk’ (sylwch bod gwall sillafu yn y cyfeiriad h.y. ‘nwlaes’ yn lle ‘nwales’). Mae nifer o wallau sillafu yng nghorff yr ebost hefyd ond maent wedi ceisio dilysu’r ebost trwy nodi cyfeiriad cywir y Swyddog Diogelu Data.  Fe all GTAGC gadarnhau nad ydi’r ebost wedi cael ei anfon gan y sefydliad.

 

Dyma’r wybodaeth a geisir (Sylwer mai Saesneg yn unig ydi cynnwys yr e-bost):

 

“Have you been convinced/charger with illegal illicit drugs use?”

“Have you been convinced /charged with the use of a vehicle under the use of alcohol.”

 

(Sylwch ar y gwallau sillafu yn y cwestiynau hyn a’r diffyg marc cwestiwn ar ddiwedd yr ail gwestiwn).

 

Os ydych chi wedi derbyn e-bost o’r fath peidiwch ag ateb yr e-bost dan unrhyw amgylchiadau na chlicio ar y linc. Argymhellir eich bod chi’n blocio cyfeiriad e-bost yr anfonwr a dileu’r e-bost ar unwaith. Gallwch hefyd riportio’r e-bost i ActionFraud, canolfan riportio twyll a seiberdroseddau  genedlaethol y DU, trwy fynd i’w gwefan - <https://www.actionfraud.police.uk/report-phishing>.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen